08/23 Prawf Pwysedd Gwaed Am Ddim 4-8 Medi
Mae gan bron i chwe miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig bwysedd gwaed uchel yn ddiarwybod iddynt, a dyna pam mae Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol Prifysgol 亚洲色吧 yn cynnig profion pwysedd gwaed cyfrinachol am ddim yn rhan o ymgyrch cenedlaethol, 'Gwnewch amser, ysgafnhewch eich pwysedd' yn rhan o 'Wythnos Adnabod Eich Rhifau.'
Effaith ar Staff Prifysgol 亚洲色吧
Ym mis Medi 2022 cynhaliodd y Brifysgol ei digwyddiad Gwybod Eich Rhifau cyntaf i staff, gyda dros 85 o gydweithwyr yn dod i鈥檙 sesiynau galw heibio i gael prawf pwysedd gwaed am ddim. Meddai Michele Lake, Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol 鈥淢ae hon yn ffordd gyflym a syml o wirio鈥檆h lles a chael gwybodaeth glir am eich pwysedd gwaed. Edrychwn ymlaen at weld hyd yn oed mwy o gydweithwyr yn manteisio ar y cyfle hwn ym mis Medi.鈥
Dywedodd un aelod o staff fod y digwyddiad, flwyddyn yn ddiweddarach, wedi bod o fudd aruthrol i鈥檞 bywyd: 鈥淕obeithio y bydd llawer o staff yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cael gwirio eu pwysedd gwaed, ac, fel fi, yn gwneud rhywbeth yn ei gylch os mae'n dangos darlleniad uchel."
Dewch i sesiwn yn eich ardal chi:
Dydd Llun, 4 Medi, 12:00pm-2:00pm 鈥 Canolfan F么r Cymru
Dydd Mawrth, 5, Dydd Mercher, 6 a Dydd Iau , 7 Medi, 12:00pm-2:00pm 鈥 Canolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg
Dydd Gwener, 8 Medi, 11:00am-2:00pm 鈥 Adeilad Cambrian (Ystafelloedd 9 ^ 10), Campws Wrecsam
Does dim angen cadw lle.
Ffeithiau am bwysedd gwaed gan Blood Pressure UK:
- Nid oes gan bwysedd gwaed uchel unrhyw arwyddion na symptomau amlwg. Yr unig ffordd i ddarganfod a yw鈥檙 cyflwr arnoch chi yw trwy gael prawf pwysedd gwaed.
- Pwysedd gwaed uchel heb ei drin yw'r prif ffactor risg ar gyfer str么c, trawiad ar y galon a methiant y galon. Mae hefyd yn ffactor risg mawr ar gyfer clefyd yr arennau a dementia.
- 120/80mmHg neu lai yw lefel pwysedd gwaed iach.
- Mae pwysedd gwaed o 121/81mmHg i 139/89mmHg ychydig yn uchel a dylid cynghori newidiadau yn eich ffordd o fyw megis bwyta llai o halen, bwyta mwy o ffrwythau a llysiau a cholli pwysau os oes angen.
- Os yw鈥檙 lefelau鈥檔 gyson ar 140/90mmHg neu'n uwch na hynny, rhoddir diagnosis o bwysedd gwaed uchel, a dylid cymryd camau i'w leihau trwy fyw鈥檔 iachach, ac, os oes angen, trwy gymryd meddyginiaeth yn unol 芒 chyfarwyddyd eich meddyg.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Wythnos Gwybod Eich Rhifau yn y brifysgol, cysylltwch 芒聽iechydallesstaff@bangor.ac.uk