Er mwyn gwarchod bioamrywiaeth a diogelu鈥檙 buddion y mae ecosystemau naturiol yn eu cynnig i ddynoliaeth, mae鈥檙 rhan fwyaf o lywodraethau ledled y byd wedi gosod targed 鈥30 mewn 30鈥 iddynt eu hunain, sef gwarchod o leiaf 30% o dir a chefnforoedd y byd erbyn 2030 (dyma un o nodau allweddol Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal).
Mae gwyddonwyr sy鈥檔 adolygu gwerth 20 mlynedd o ddata o riffiau cwrel cyn, yn ystod ac ar 么l cyfnod digynsail o dymereddau m么r uchel o amgylch Hawaii yn awgrymu, er mwyn sicrhau鈥檙 canlyniadau gorau i riffiau cwrel, fod angen cysylltu鈥檙 ardaloedd o dir a m么r sydd wedi鈥檜 targedu ar gyfer cadwraeth.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Nature (9/8/23 ), yn nodi bod gan yr ardaloedd o greigresi cwrel a lwyddodd i oroesi cyn ac ar 么l y cyfnod o dywydd poeth yn y m么r yn 2015 rywbeth yn gyffredin: roedd lefelau llai o ddeunydd llygrol dynol o鈥檙 tir megis llygredd d诺r gwastraff yn y mannau hynny. Roedd ganddynt hefyd gymunedau mwy niferus o bysgod llysysol sy'n bwydo ar yr alg芒u noddlawn sy'n cystadlu 芒 chwrelau ffurfio riffiau am ofod ar lawr y riff.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol 亚洲色吧 a Pacific Islands Fisheries Science Center y National Oceanic and Atmospheric Administration yn yr Unol Daleithiau wedi dod i鈥檙 casgliad mai'r ffordd i gynyddu siawns riffiau cwrel o oroesi mewn byd sy鈥檔 cynhesu yw trwy integreiddio rheolaeth arfordirol dros y tir a鈥檙 m么r.
鈥淢ae effaith dyn ar y raddfa leol yn peryglu gallu naturiol riffiau cwrel i amddiffyn eu hunain, gan eu gwneud yn fwy agored i niwed a achosir gan gyfnodau o wres yn y m么r, rhywbeth sy鈥檔 digwydd yn fwy aml ac yn fwy dwys oherwydd newid hinsawdd鈥 meddai Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion Prifysgol 亚洲色吧, un o brif awduron y papur.
鈥淭ra bydd llywodraethau鈥檔 ymdrechu i leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr ac arafu cyflymder cynhesu cefnforoedd, mae angen strategaethau rheoli ar raddfa leol i liniaru effeithiau dyn a chefnogi parhad creigresi cwrel mewn byd sy鈥檔 cynhesu.鈥 eglurodd Dr Williams.
鈥淔odd bynnag, nid yw amddiffyn tri deg y cant o ardaloedd tir a m么r arfordirol yn ymarferol, ac mae鈥檔 anfoesegol o ystyried y gyfran uchel o bobl sy'n byw yn agos at yr ecosystemau hyn ac sy鈥檔 dibynnu arnynt. Yn lle hynny, er mwyn cael canlyniadau cadwraeth llwyddiannus mae angen polis茂au cysylltiedig ar gyfer y tir a m么r mewn unrhyw ardal lle ceir creigresi, polis茂au megis rheoli d诺r gwastraff a llywodraethu pysgodfeydd鈥 meddai Dr Williams.
鈥淩oedd y dull traddodiadol o reoli adnoddau yn Hawaii yn ymestyn o'r mynyddoedd (mauka) i'r m么r (makai) ac yn cynnwys y wahanfa dd诺r gyfan, neu鈥檙 础丑耻辫耻补驶补. Mae ein canfyddiadau鈥檔 cefnogi鈥檙 angen i ailintegreiddio鈥檙 tir a鈥檙 m么r oddi fewn i un dull o reoli鈥檙 cefnfor arfordirol, yn debyg i鈥檙 hen drefn gynhenid o ofalu am ecosystemau鈥檙 ynysoedd鈥 parhaodd Dr Gove.
鈥淲rth edrych i鈥檙 dyfodol, mae modelau hinsawdd yn rhagweld bod cynhesu cefnforol yn amrywio鈥檔 sylweddol mewn senarios lle mae llai o allyriadau nwyon t欧 gwydr, hyd yn oed mewn ardaloedd daearyddol cymharol fach megis Hawaii. Gall camau sy鈥檔 cefnogi parhad creigresi cwrel yn lleol ochr yn ochr 芒 gostyngiadau byd-eang mewn allyriadau nwyon t欧 gwydr brynu amser i riffiau addasu a goroesi i鈥檙 dyfodol,鈥 esboniodd Dr Williams.
Pam mae riffiau cwrel yn bwysig?
Mae riffiau cwrel yn cynnal chwarter yr holl rywogaethau cefnforol a nhw yw鈥檙 ecosystemau cefnforol mwyaf cynhyrchiol a biolegol amrywiol ar y ddaear. Mae riffiau cwrel yn amddiffyn yr arfordir rhag cael ei erydu gan donnau ac maent yn bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd i'w cymunedau. Fodd bynnag, mae llawer o riffiau cwrel arfordirol hefyd wedi'i lleoli mewn ardaloedd poblog iawn.
Yn Hawaii, mae dros 85% o'r boblogaeth yn byw o fewn ychydig filltiroedd i'r arfordir, lle mae isadeiledd a gweithgareddau鈥檙 riffiau cwrel wedi'u crynhoi. Yn anochel, mae effaith dyn ar riffiau cwrel yn digwydd gerllaw鈥檙 ardaloedd hyn o ddatblygu arfordirol, gan gynnwys maetholion a gwaddod yn golchi i鈥檙 m么r o dir amaethyddol a all niweidio cwrelau a physgodfeydd m么r, ac sy鈥檔 aml yn targedu鈥檙 pysgod llysysol sy鈥檔 fuddiol i iechyd cyffredinol y riffiau. Yn ogystal 芒'r effeithiau dynol lleol hyn, mae鈥檙 newid hinsawdd byd-eang yn cynhesu鈥檙 cefnfor, sydd hefyd yn bygwth goroesiad creigresi.
Roedd y dulliau cynhenid o ofalu am ecosystemau鈥檙 ynysoedd yn ystyried y tir a'r m么r fel un endid cysylltiedig, o鈥檙 mynydd i鈥檙 m么r. Er bod arferion presennol rheoli arfordirol yn dangos dyhead am ddull integredig tebyg, yn ymarferol mae hyn wedi鈥檌 lesteirio gan y ffaith bod y tir a鈥檙 m么r yn aml yn cael eu rheoli gan wahanol asiantaethau lleol.
"Mae'r syniad bod y tir a鈥檙 m么r yn rhyng-gysylltiedig wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn arferion rheoli adnoddau brodorol yn Hawaii鈥 meddai Dr Jamison Gove o Pacific Islands Fisheries Science Center y National Oceanic and Atmospheric Administration, a chyd-arweinydd yr astudiaeth.