Symposiwm Merched ym Myd Cyhoeddi - ariannwyd gan Gronfa 亚洲色吧
Merched o bob rhan o'r byd cyhoeddi yn siarad am eu profiad o'r diwydiant mewn symposiwm undydd
Ariannwyd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan Gronfa 亚洲色吧 Prifysgol 亚洲色吧 a'i noddi gan Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys Helgard Krause (Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru ac un o 150 o bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyhoeddi yn 么l y Booksellers鈥 150), dau olygydd gwasg Honno, Heather O'Connell o Bluebird Consulting, a thri entrepreneur cyhoeddi ifanc sydd wedi sefydlu a golygu fformatau arloesol i gylchgronau a chyfnodolion fel Lumin ac Y Stamp yn y Gymraeg.
Er i Storm Dennis daro Gogledd Cymru gyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm, llenwodd siaradwyr a gwesteion Neuadd Matthias ym Mhrifysgol 亚洲色吧 am ddiwrnod llawn o siaradwyr a thrafod, gan gynnwys pymtheg o ferched o鈥檙 Ysgolion Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth a Cherddoriaeth a鈥檙 Cyfryngau. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol fewnwelediad i鈥檙 byd cyhoeddi (gan gynnwys pa awduron enwog sydd ymhlith y sillafwyr gwaethaf) a鈥檙 cyfleoedd sydd gan ferched ym maes cyhoeddi.
Mae'r diwydiant cyhoeddi yn cynnig cyfleoedd ardderchog i ferched, ond mae'r rhwystrau a'r gwahaniaethu yn aml yn gwrthbwyso'r rhain. Yn 么l arolwg yn 2019 gan Publishers Weekly yn yr Unol Daleithiau,听 merched sy'n dal tua 80% o鈥檙 swyddi cyhoeddi ond dim ond 52% o'r swyddi rheoli ar hyn o bryd.[1] Er bod gan y diwydiant cyhoeddi llyfrau yn y Deyrnas Unedig gyfran debyg o ferched yn y diwydiant, mae'r cyfran mewn swyddi rheoli yn sylweddol is, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mor uchel 芒 40% mewn rhai cwmn茂au[2].
Mae gan Heather O'Connell, ymgynghorydd/hyfforddwr a sylfaenydd Bluebird Consulting, dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyhoeddi, ac mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o swydd rheolwr i swyddi uwch reolwyr gyda Penguin a Harper Collins. Mae hi鈥檔 credu mai pobl sy鈥檔 allweddol i lwyddo:听
鈥淢ae cyhoeddi yn ddiwydiant gwych gyda llawer o ferched anhygoel, deinamig a disglair er bod llawer o'r problemau sy'n gynhenid mewn busnes yn y diwydiant, dynion sy'n dal y rhan fwyaf o'r swyddi gorau, mae'n anoddach i entrepreneuriaid sy'n ferched gael cyllid ac nid ydym wedi osgoi effeithiau (hashnod)Metoo. Mae digwyddiadau fel hyn yn sicrhau bod yna gronfa gynyddol ac ysbrydoledig o ferched yn ymuno 芒'r diwydiant.鈥
Mae merched yn wynebu heriau tebyg i gael llais trwy eu cyhoeddi. VIDA: Mae Women in Literary Arts yn cynnal 鈥淭he VIDA Count鈥, sef arolwg blynyddol o gynnwys a gyhoeddir mewn cyfnodolion llenyddol yn yr Unol Daleithiau a鈥檙 Deyrnas Unedig. Yn 么l eu hadroddiad diweddaraf, dim ond 20% o gyhoeddiadau llenyddol mawr sydd 芒 chydbwysedd rhyw o 50% neu fwy, ond i rai mae canran y gwaith gan ferched mor isel 芒 27% yn rheolaidd.[3] Mae ystadegau o'r fath yn awgrymu bod safle merched yn y diwydiant cyhoeddi yn un cymhleth ac esblygol ac yn nodi, er gwaethaf amlygrwydd merched yn y maes yn gyffredinol, bod heriau sylweddol o hyd i gydraddoldeb rhyw.
Mae鈥檙 gynhadledd hon yn tynnu sylw at yr heriau hyn ac yn ennyn diddordeb myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 a chymuned lenyddol Cymru wrth ystyried dulliau arloesol o sicrhau gyrfa yn y byd cyhoeddi.
[1] Milliot, J. (2019, 15 Tachwedd). The PW Publishing Industry Salary Survey, 2019. Publishers Weekly.
[2] Page, B. (2018, Mawrth 29). Four more academic publishers reveal gender pay gaps. The Bookseller.
[3] Garcia, S. F., & Kocher, R. E. (2019). The 2018 VIDA Count. VIDA: Women in Literary Arts.
听