Darlithydd yn ennill Llyfr y Flwyddyn Ffeithiol Greadigol
Llongyfarchiadau enfawr i Dr Gareth Evans-Jones sy’n darlithio Athroniaeth a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ar ddod yn fuddugol yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023 gyda’i gyfrol, Cylchu Cymru: Llun a Llên wrth Gerdded (Y Lolfa).
Teithiodd Dr Gareth Evans-Jones o amgylch Cymru, ar hyd llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa, dros gyfnod o bedair blynedd ac ymateb i 60 lleoliad gwahanol ar ffurf llenyddiaeth greadigol gryno, yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth. Yn y darnau hyn, ceir ymateb i hanes, tirwedd, chwedloniaeth, cymdeithas, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, ynghyd â thlysni a chymhlethdodau lleoliadau gwahanol Cymru. Ymysg y darnau, mae yna un am Fangor adeg y Nadolig, a’r naws swynol sydd i’w theimlo wrth grwydro’r Stryd Fawr yr adeg honno o’r flwyddyn.
Dyma a ddywedodd Gareth yn dilyn derbyn y wobr mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Iau 13eg o Orffennaf: ‘Dwi’n dal i fod mewn dipyn o sioc! Roedd cyrraedd y rhestr fer yn gwbl annisgwyl ac yn fraint enfawr, ond mae dod i’r brig yn y categori, gyda dau lyfr mor ddifyr a gwahanol iawn i’w gilydd ochr yn ochr â Cylchu Cymru, yn rhyfeddol. Mae fy niolch yn enfawr i’r Lolfa am gyhoeddi’r gwaith a Meinir Wyn Edwards am ei golygu amyneddgar a chraff, ynghyd ag Olwen Fowler am y dylunio gwych.’
Ymysg gwaith diweddaraf Gareth, mae cyhoeddi addasiad o’i draethawd doethurol a luniodd dan gyd-gyfarwyddyd yr Athro Emeritws Eryl Wynn Davies a’r Athro Jerry Hunter, ‘Mae’r Beibl o’n tu’: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012); golygu’r flodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg gyntaf a gyhoeddir ddiwedd Gorffennaf 2023, Curiadau (Barddas), mentora awdur newydd a chyffrous wrth iddo lunio’i gyfrol gyntaf a gyhoeddir ym mis Medi 2023, Malachy Edwards, Y Delyn Aur (Gwasg y Bwthyn 2023), cydweithio â dau fardd arall, Tatev Chakhian a Zofia Bałdyga fel rhan o brosiect ‘Counterpoint’ mudiad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, sy’n talu sylw drwy farddoniaeth i brofiadau mudwyr; ac ym mis Hydref 2023, bydd ail nofel Gareth yn ymddangos, sydd wedi’i lleoli mewn ɫ dychmygol, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn).
Llongyfarchiadau, Dr Gareth Evans-Jones!