Cymrodoriaeth Addysgu i’n Dr Joshua Andrews
Mewn seremoni raddio yr haf hwn, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, i gydnabod ei waith hynod ysbrydoledig fel addysgwr.
Llongyfarchiadau enfawr i Dr Joshua Andrews, darlithydd mewn Moeseg a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ar dderbyn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É mewn seremoni raddio’r haf.
Rhoddir y Gymrydoriaeth i gydnabod a dathlu gwaith clodwiw academydd sy’n ysbrydoli, yn ysgogi ac yn annog eu myfyrwyr i wneud y gorau o’u gallu’n wastadol. Mae Dr Joshua Andrews yn un o ffigyrau mwyaf deinamig ac ymgysylltiol ein Hysgol sy’n ymwneud yn effeithiol ag addysg a gofal bugeiliol ein myfyrwyr. Yn wir, mae ei waith fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu Myfyrwyr yn eithriadol iawn ac mae’r gymuned addysgol a chymdeithasol ymysg ein myfyrwyr yn gyfoethocach o lawer o’i herwydd.
Dyma’r hyn ddywedodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn ei araith am Dr Joshua Andrews yn y seremoni raddio: ‘Mae Joshua Andrews yn gaffaeliad gwych i’r Ysgol. Mae’n wastad yn mynd tu hwnt i ddulliau addysgu traddodiadol. Drwy ddulliau rhyngweithiol, megis trafodaethau panel ac aseiniadau melin drafod, mae wedi annog myfyrwyr i gymryd rhan weithredol yn eu haddysg eu hunain. Drwy ymgorffori’r mathau hyn o asesu arloesol, mae’n herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a rhoi eu gwybodaeth ar waith mewn cyd-destunau ymarferol.Â
‘Mae Joshua wedi meithrin amgylchedd cynhwysol a chydweithredol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i fynegi eu syniadau. Mae ei ymroddiad i feithrin awyrgylch ystafell ddosbarth deinamig i'w ganmol. Trwy ei ddulliau addysgu eithriadol, mae nid yn unig wedi cyflwyno gwybodaeth ond hefyd wedi ysbrydoli angerdd gwirioneddol dros ddysgu.'
Meddai Dr Joshua Andrews: ‘Rydw i’n hynod ddiolchgar ac yn teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu AU Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r gydnabyddiaeth hon o f’ymroddiad i addysgu ac ymrwymiad i gyfoethogi'r profiad dysgu yn arwyddocaol iawn. Rydw i’n gyffrous i barhau i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol, gan rymuso myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.’
Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, wedi cwblhau ei raddau BA mewn Astudiaethau Crefyddol, MA mewn Crefydd ac Athroniaeth, a PhD gyda’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, mae Dr Joshua Andrews bellach yn un o hoelion wyth y cwrs gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd. Mae hefyd yn cyd-diwtora ar y cwrs TAR Addysg Grefyddol Uwchradd gyda’r Ysgol Addysg, ac yn gweithio’n agos ag amryw fudiadau addysgiadol ac estyn allan yn y brifysgol a’r tu hwnt. Ym mis Medi 2022, fe’i penodwyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru sydd wedi’i lleoli ym Mangor ac yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2023, fe enillodd Wobr Llais y Myfyriwr.
Llongyfarchiadau enfawr, Dr Joshua Andrews!