Cyhoeddi briff polisi ar adfer coedwigoedd a datgoedwigo yng Ngholombia
Cyfrannodd y Cymrawd Ymchwil Cydweithredol NERC-IIASA, Eleanor Warren-Thomas, waith modelu a dylunio senarios ar gyfer briff polisi newydd ar adfer coedwigoedd a datgoedwigo yng Ngholombia, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan , sy鈥檔 rhan o .
Mae'r ymchwil newydd hwnnw gan d卯m Colombia聽 sy鈥檔 fenter o dan , y Sefydliad Rhyngwladol er Dadansoddi Systemau Cymhwysol (), a Phrifysgol 亚洲色吧, yn dangos y cyfleoedd a鈥檙 canlyniadau posibl o ran adfer coedwigoedd yng Ngholombia. Mae鈥檙 canfyddiadau鈥檔 dangos pa mor bwysig yw gwarchod rhag datgoedwigo pellach er mwyn sicrhau na fydd allyriadau carbon o goedwigoedd yn y dyfodol, a鈥檙 cyfleoedd i adfer coedwigoedd heb effeithio ar y cynhyrchiant amaethyddol trwy ganolbwyntio ar borfeydd isel eu dwysedd.聽
Rhwng 2000 a 2020, trowyd tua 4.9 miliwn ha o goedwigoedd naturiol yn laswelltir yng Ngholombia. Yn 2021-2022 y macrofasn yr effeithiwyd arni fwyaf oedd yr Amazon, a oedd yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r datgoedwigo (0.11 Miliwn ha), ac yna'r un Andeaidd gyda 17%. Rhwng 2005 a 2015, cafodd 50% o鈥檙 ardaloedd datgoedwigo eu trawsnewid yn borfeydd yn ffermio gwartheg isel eu cynhyrchiant. Mae tyfu cnydau anghyfreithlon yn dal yn broblem ond yn y 34 mlynedd diwethaf, disodlodd ffermio gwartheg ffermio coca fel y prif ffactor sy鈥檔 peri colli coedwigoedd y tu allan i'r ardal lle caniateir gweithgareddau amaethyddol (y 'Ffin Amaethyddol').
Adolygwyd pum polisi sy'n anelu at atal datgoedwigo a gwella adferiad yng Ngholombia. Bu鈥檙 briff yn dadansoddi鈥檙 effeithiau posibl ar ddefnydd tir, cynhyrchu amaethyddol, ac allyriadau nwyon t欧 gwydr (GHG) erbyn 2030 a 2040 trwy ddefnyddio GLOBIOM-Colombia (model ecwilibriwm rhannol a gafodd ei raddnodi a'i addasu i gyd-destun Colombia).聽
Dangosodd yr adolygiad o鈥檙 polis茂au fod targed cenedlaethol bras ar gyfer adfer yng Ngholombia o 1 Miliwn ha. Fodd bynnag, nid yw鈥檙 polis茂au adfer yn gyson ynghylch yr arwynebedd cyfan, y math o orchudd tir a dargedwyd i鈥檞 adfer, ac a yw'r gwaith adfer arfaethedig yn oddefol neu'n weithredol.聽
Mae'r briff yn argymell bod Cynllun Adfer Cenedlaethol diwygiedig Colombia yn ystyried canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae ecosystemau yn y perygl mwyaf, hyd yn oed os ydynt y tu mewn i'r Ffin Amaethyddol, os yw鈥檙 cynhyrchiant amaethyddol yn isel a bod adfywiad naturiol yn bosib ar gyfer adferiad ecolegol goddefol. Hefyd, byddai angen cefnogaeth y cymunedau gwledig a鈥檙 ffermwyr i atal, dadleoli, neu gyfyngu ar ehangu gweithgaredd amaethyddol mewn rhai ardaloedd er mwyn osgoi datgoedwigo. Er mwyn gwireddu鈥檙 llwybrau hynny, mae angen i Golombia weithredu set o ymyriadau cyflenwol, megis cymhellion, cefnogaeth i ffurfioli perchnogaeth tir, cyfarfodydd bord gron cymunedol, a pholis茂au sy鈥檔 cefnogi creu swyddi i鈥檙 boblogaeth weithiol wledig y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar weithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 datgoedwigo.
Cewch ddarllen y briff yma (caiff fersiwn Sbaeneg ei uwchlwytho i'r wefan yn fuan hefyd).