Prifysgol ɫ yn arddangos ymchwil i Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru
Heddiw, croesawodd Prifysgol ɫ Brif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal, wrth iddo gychwyn ar daith o amgylch prifysgolion Cymru.
Mae’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yn awyddus i wybod sut mae prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd mewn ymchwil wyddonol o’r radd flaenaf sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, diraddiad amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, diogelu'r cyflenwad bwyd, gofal iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol cynyddol.
Dangosodd Prifysgol ɫ beth o'i hymchwil ym meysydd yr amgylchedd, iechyd a lles pobl a'r blaned, a chynaliadwyedd.
Ymunodd rhai o’r ymchwilwyr sy'n creu effeithiau yn y byd go iawn, â thrafodaeth bord gron gyda'r Athro Badyal. Roedd y pynciau trafod yn cynnwys: ehangu’r ymchwil, dan arweiniad Prifysgol ɫ, i brofi dŵr gwastraff am COVID-19 er mwyn cynnwys clefydau trosglwyddadwy eraill, gwaith ym maes gwerthuso effaith cadwraeth ac effaith ymyriadau cadwraeth megis gwrthbwyso bioamrywiaeth ac ardaloedd gwarchodedig, ymchwil i faterion amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd, ac ymchwil a wnaed ym maes biotechnoleg amgylcheddol a datblygu deunyddiau pacio a deunyddiau adeiladu cynaliadwy.
Cafodd y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol a chydweithwyr o’r brifysgol hefyd glywed y datblygiadau diweddaraf am y Sefydliad Dyfodol Niwclear, y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, ac am sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol ɫ.
Bu’r Athro Badyal hefyd yn ymweld â pharc gwyddoniaeth M-SParc, is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol ɫ, ar Ynys Môn i drafod symud ymchwil i mewn i’r farchnad gyda busnesau gwyddonol yng Ngogledd Cymru gan gynnwys tenantiaid M-SParc, sef Animated Tech ac EcoMetrics, a chymdeithas dai Adra, yn ogystal â chynrychiolwyr Uchelgais Gogledd Cymru, Menter Môn a Chyngor Môn.
Dywedodd Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, “Roedd hwn yn gyfle gwych i groesawu Prif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru ac i arddangos ymchwil blaenllaw Prifysgol ɫ a’i budd cymdeithasol.”
Rwyf wedi bod yn falch iawn o gwrdd ag ymchwilwyr gwyddonol yn ystod fy ymweliad heddiw a dysgu mwy am uchelgais Prifysgol ɫ o ran troi ymchwil wyddonol yn fudd economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru a thu hwnt.