Dywed ymchwilwyr sy’n dadansoddi dŵr gwastraff y gallai monitro arferol mewn gweithfeydd trin carthion ddarparu system rhybuddio cynnar bwerus ar gyfer yr epidemig nesaf o ffliw neu norofeirws, gan rybuddio ysbytai i baratoi a darparu gwybodaeth iechyd hanfodol i asiantaethau iechyd cyhoeddus.
Yn yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf i’w chynnal yn y Deyrnas Unedig ar epidemioleg dŵr gwastraff, bu gwyddonwyr o Prifysgol ɫ, Prifysgol Caerfaddon ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig yn dadansoddi dŵr gwastraff o 10 dinas gan edrych am farcwyr iechyd cemegol a biolegol, gan gynnwys plaleiddiaid, cynhyrchion fferyllol a firysau sy'n achosi clefydau.
Casglwyd samplau o bob lleoliad fesul awr dros 24 awr ar naw diwrnod ym mis Tachwedd 2021. Cafodd samplau pob diwrnod eu cronni cyn cael eu prosesu a'u dadansoddi yn edrych am farcwyr cemegol hybrin gan ddefnyddio technegau sbectrometreg màs.
Dadansoddwyd y samplau hefyd i ganfod unrhyw ddeunydd genetig o firysau (SARS-CoV-2, norofeirws ac adenofirws). Roedd cyfanswm y dalgylch samplu yn cyfateb i boblogaeth o tua 7 miliwn o bobl.
Canfod cemegau hybrin
Gan ddefnyddio dadansoddiad cemegol hynod sensitif a allai wahaniaethu rhwng marcwyr tebyg iawn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu dweud a oedd cynhyrchion fferyllol wedi pasio trwy'r corff dynol neu wedi'u gwaredu'n uniongyrchol i'r system dŵr gwastraff.
Gallent hefyd nodi a oedd cemegau megis plaleiddiaid wedi'u treulio mewn bwyd neu wedi'u golchi i'r system dŵr gwastraff oddi ar dir amaethyddol.
Sylwodd y tîm fod y gwahaniaethau yn lefelau’r marcwyr cemegol yn dibynnu'n bennaf ar faint y boblogaeth yn y dalgylch, ond roedd canlyniadau eraill oedd allan o’r cyffredin.
Er enghraifft, mewn un ddinas, cafwyd crynhoad llawer uwch o ibuprofen yn y dŵr, o gymharu â dinasoedd eraill, sy'n awgrymu mai gwastraff diwydiannol ydoedd a waredwyd yn uniongyrchol i’r system dŵr gwastraff.
Nodi achosion o glefydau
Canfu'r ymchwilwyr achosion lleol o norofeirws, Covid-19 a ffliw, ond gallent hefyd ganfod cydberthyniad rhwng y canlyniadau hynny â thwf yn y defnydd o gyffuriau lladd poen sy’n cael eu gwerthu dros y cownter, cyffuriau megis parasetamol.
Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai dadansoddi dŵr gwastraff ar raddfa fawr yn y modd hwn, sef techneg o’r enw epidemioleg ar sail dŵr gwastraff, olygu y gellid sylwi ar achosion newydd o glefydau mewn cymunedau yn gynnar, cyn i niferoedd mawr gael eu derbyn i’r ysbytai.
Dywedodd yr Athro Davey Jones, a fu’n arwain tîm yn dadansoddi'r dŵr gwastraff am firysau: “Mae norofeirws a ffliw tymhorol wedi bod yn broblem enfawr mewn ysbytai bob gaeaf; nawr mae Covid-19 wedi ychwanegu at y broblem.
“Mae ein hastudiaeth profi cysyniad wedi dangos y potensial sydd gan Epidemioleg ar sail Dŵr Gwastraff i ddarparu system gwyliadwriaeth rhybuddio cynnar ar gyfer y clefydau hyn a chlefydau eraill, a fyddai’n galluogi ysbytai i baratoi ar gyfer achosion yn yr ardal leol.”
Yr Athro Barbara Kasprzyk-Hordern, o'r ac o’r ym Mhrifysgol Caerfaddon, a arweiniodd y gwaith cemegol yn y project. Dywedodd: “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn estyn am y parasetamol pan fyddan nhw’n mynd yn sâl am y tro cyntaf, ac yn ceisio trin eu salwch gartref.
“Felly gallai chwilio am gynnydd mawr yn y defnydd o barasetamol roi arwydd cynnar i ni y gallai fod achos o glefyd heintus yn y gymuned.
“Gallwn hefyd ganfod marcwyr llid ac felly edrych am unrhyw bethau sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael ac am aramlygiad i gemegion niweidiol, megis plaleiddiaid mewn bwyd neu gemegion o ffynonellau diwydiannol.
“Mae ein hastudiaeth wedi dangos mai dim ond 10 sampl dyddiol o 10 o weithfeydd trin dŵr gwastraff sydd eu hangen i ddarparu gwybodaeth ddienw a diduedd am iechyd 7 miliwn o bobl – mae hyn yn llawer rhatach a chyflymach nag unrhyw broses sgrinio glinigol.
“Gallai hwn, felly, fod yn arf pwerus iawn er mwyn rhoi dealltwriaeth gyfannol i ni o iechyd cyhoeddus gwahanol gymunedau.”
Dywedodd Matthew Wade, o : “Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad gwych rhwng cemegwyr, biolegwyr ac asiantaethau’r Llywodraeth, yn gweithio gyda nifer o gwmnïau dŵr i gasglu data pwysig am farcwyr cemegol a biolegol o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r project hwn ac yn edrych ymlaen at ddatblygu potensial yr offeryn iechyd cyhoeddus hwn ymhellach fyth yn y dyfodol.”
Cyhoeddir yr astudiaeth yn y , ac fe'i hariannwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig a’r