Bydd treial newydd yn gweld cyflwyno ymyrraeth gofal sylfaenol ar raddfa lawn i gynorthwyo diagnosis canser cynnar mewn 80 o bractisau meddygon teulu ar draws Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr; dwy ardal sy'n dioddef o gyfraddau goroesi canser cymharol wael oherwydd diagnosis canser hwyr.
Nod y fenter yw trawsnewid diagnosis canser cynnar mewn gofal sylfaenol drwy gyflwyno prosesau gweithio newydd i lywio’n well sut mae gofal sylfaenol yn ystyried, ac yn rheoli, achosion o ganser a amheuir pan fydd cleifion yn cyflwyno symptomau i’w meddyg teulu am y tro cyntaf.
Mae dros 60% o gleifion canser yn ymweld â’u meddyg teulu pan fyddant yn dangos symptomau sy’n cyd-fynd â chanser am y tro cyntaf, sy’n golygu bod gan ddarparwyr gofal sylfaenol rôl hanfodol i’w chwarae i gael yr atgyfeiriadau a’r profion cywir, ar gyfer y cleifion cywir, ar yr adeg gywir.
Treialwyd ymchwil gychwynnol, a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru ac a elwir yn WICKED (Ymyriadau Cymru a Gwybodaeth Canser am Ddiagnosis Cynnar), ar draws 19 o bractisau meddygon teulu. Datgelodd fod y defnydd o’r canllawiau atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer amheuaeth o ganser yn amrywio ar draws Cymru, a bod meddygon teulu’n aml yn teimlo pwysau pan oeddent yn atgyfeirio gan wasanaethau gofal eilaidd a oedd wedi’u gorlethu.
Dywedodd hanner y meddygon teulu yn yr arolwg nad oedd ganddynt hyder yn eu gallu i atgyfeirio cleifion â symptomau annelwig yn gyflym fel colli pwysau heb esboniad, colli archwaeth, blinder, a theimlo’n wahanol yn gyffredinol. Yn dilyn yr ymchwil cychwynnol, gwnaeth pob tîm practis o leiaf 3 newid i'w gweithdrefnau, a oedd yn cynnwys penodi hyrwyddwr canser.
Roedd y canfyddiadau hyn yn hollbwysig gan fod hyd at 50 y cant o'r holl ganserau a gaiff ddiagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru am y tro cyntaf yn dangos symptomau annelwig. Bydd y treial ThinkCancer! newydd yn gweld gwell gweithdrefnau rhwydi diogelwch yn cael eu sefydlu – gan sicrhau bod cleifion yn cael eu dilyn yn barhaus, a bod canlyniadau profion yn cael eu gweithredu a’u hadrodd yn gyflym.
Y gobaith yw y bydd y treial estynedig yn gwella gwasanaethau canser ar y pwynt cyswllt cyntaf â chleifion, yn cynyddu nifer a chywirdeb yr achosion o ganser a amheuir, ac yn darparu tystiolaeth hanfodol i ysgogi newid mewn polisi ac ymarfer - ac yn y pen draw yn hybu cyfraddau goroesi canser trwy ddiagnosis cynharach.
Dywedodd yr Athro Clare Wilkinson, o Ganolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol Prifysgol ɫ, sy’n arwain ymchwil ar gyfer WICKED a ‘ThinkCancer!’:
“Mae timau practisau cyffredinol eisoes yn gwneud gwaith rhagorol yn atgyfeirio cleifion cyn gynted â phosibl â symptomau neu arwyddion canser. Er mwyn gwella’r darlun presennol ymhellach, bydd y prosiect hwn yn treialu cyfres o weithdai pwrpasol i hyrwyddo trothwyon atgyfeirio is ac arferion rhwydi diogelwch tîm cyfan.”
Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil, Ymchwil Canser Cymru, “Gall symptomau canser amrywio’n fawr, a chânt eu rhannu â chyflyrau eraill mwy cyffredin a llai difrifol. Felly, mae angen ffyrdd callach a mwy gwybodus o weithio er mwyn helpu i amau canser a gwneud diagnosis o ganser yn gynharach ar bwynt cyswllt cyntaf cleifion â meddygon teulu.
“Mae’r astudiaeth newydd hon yn barhad o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y mae Ymchwil Canser Cymru wedi’i wneud ym maes diagnosis cynnar o ganser dros y degawd diwethaf.
“Gan fod yr ymyriad hwn yn seiliedig ar anghenion a nodwyd gan feddygon teulu a staff gofal sylfaenol ar draws Cymru, hoffem ddiolch i’r holl feddygfeydd teulu hynny sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu’r astudiaeth arloesol hon. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr astudiaeth yn darparu model y gellir ei ailadrodd ar draws llawer o wahanol fathau o glefydau.”
Yn dilyn y treial cychwynnol, cafwyd ymateb hynod gadarnhaol, gyda sawl practis yn cymryd camau ar unwaith i wella sut mae eu meddygfeydd yn delio â chanser ac yn gwneud diagnosis ohono.
Bu Nefyn Williams, Meddyg Teulu, yng Nghanolfan Iechyd Plas Menai yn Llanfairfechan yn cymryd rhan yn Nhreial ThinkCancer!. Meddai:
“Pan ddaw pobl atom gyda symptomau, rydym am iddynt wybod ein bod yn eu cymryd o ddifrif.
“Yn ystod cam cyntaf y treial hwn, roedd ymyrraeth ThinkCancer! yn annog tîm cyfan y practis – o glinigwyr i’r tîm llywio cleifion – i ganolbwyntio ar ganfod canser yn gynnar, yn enwedig ar gyfer cleifion â symptomau annelwig.
“Po gynharaf y byddwn yn gwneud diagnosis o ganser, y cynharaf y gallwn ddechrau triniaeth, sy’n golygu bod siawns well o wella. Bydd y treial Cam III hwn ar raddfa lawn yn ein helpu i ddarparu mwy o dystiolaeth y gall yr ymyriad hwn achub bywydau."
Cymerodd Cleona Jones, rheolwr practis meddyg teulu The Practice of Health, y Barri, ran yn y treial cychwynnol hefyd. Ychwanegodd:
“Drwy gael pawb i gymryd rhan, o dderbynyddion i staff ar draws y practis cyfan, roedd yn rhaid i ni i gyd ddysgu, rhannu a chlywed safbwyntiau pawb ar y mater.
“Roedd yn brofiad cadarnhaol i ni i gyd ac mae wedi ein helpu i weithio fel ffrynt unedig i wella diagnosis canser mewn gofal sylfaenol.”
Dywedodd Alastair Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Ymchwil Canser Gogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Thîm ThinkCancer! ac Ymchwil Canser Cymru ar y prosiect pwysig hwn. I gleifion ar draws Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr mae’n hanfodol eu bod yn cael diagnosis o’u cyflwr cyn gynted â phosibl ac mae rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar feddygon teulu a staff gofal sylfaenol i wneud hyn yn hanfodol bwysig.”
Bydd Yr Athro Clare Wilkinson, o Ganolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol Prifysgol ɫ yn arwain ThinkCancer!. rhaglen £1.5 miliwn gan Ymchwil Canser Cymru, mewn cydweithrediad ag Ymchwil Canser Gogledd Cymru.