Trafod Twristiaeth Gynaliadwy gyda Phobl Ifanc
Mae Dr Sara Parry a Dr Sonya Hanna o Ysgol Busnes 亚洲色吧 wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan Wobr Effaith ac Arloesedd Prifysgol 亚洲色吧 i ymchwilio amgyffredion pobl ifanc a鈥檜 hymlyniad i Dirwedd Llechi. Mae'r Dirwedd Llechi yn safle UNESCO ers 2021 ac mae鈥檔 safle pwysig i ddiwylliant Gogledd Cymru. Ffocws y gwaith hwn yw Twristiaeth Gynaliadwy yn yr ardal, yn enwedig gyda nifer mawr o ymwelwyr wedi dod i ymweld 芒 Gogledd Cymru yn ystod y pandemig. Bydd canlyniadau'r ymchwil hwn yn bwydo i mewn i Gynllun Economi Ymwelwyr Cynaliadwy Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc sy'n byw yn yr ardal Tirwedd Llechi ac yn archwilio effaith cyfryngau cymdeithasol ar agweddau cymunedau lleol ac ymwelwyr.