11/22 Wythnos Siarad am Arian
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn falch o fod yn bartner gyda鈥檙 Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS) i hyrwyddo Wythnos Siarad am Arian, sy鈥檔 rhedeg rhwng 7-11 Tachwedd eleni.
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu yn y cyfnod cyn ac yn ystod Wythnos Siarad am Arian, er mwyn rhoi llwybrau clir a chyfredol i staff at ffynonellau cymorth mewnol ac allanol am les ariannol.
Dywedodd Tracy Hibbert, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, 鈥淓r bod y brifysgol eisoes yn darparu o ran lles ariannol staff trwy鈥檙 ystod eang o fanteision, rydym eisiau gwneud mwy i gefnogi a chynorthwyo staff i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, i reoli cyllid dyddiol, rheoli sioc ariannol ac o ran edrych ar ddewisiadau bywyd. Bydd y sesiynau isod ac eraill a fydd yn cael eu hamlygu yn ystod Wythnos Siarad am Arian yn rhoi鈥檙 cyfleoedd hynny i staff.鈥
Cliciwch am fideo byr ar Wythnos Siarad am Arian 2022.
Gweminar Ymwybyddiaeth Lles Ariannol
Dyddiad ac amser: Dydd Iau 10 Tachwedd, 10:00am-11:00am
Bydd Rhian Hughes a Lawrence Davies o鈥檙 Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn rhannu pam fod lles ariannol yn bwysicach nag erioed o ran ein lles cyffredinol; gan gynnwys ein lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Bydd y sesiwn yn cynnwys sut mae pryderon ariannol yn effeithio ar ein lles cyffredinol ynghyd 芒 pha gymorth ariannol a phensiwn sydd ar gael i'n cefnogi ni i gyd gyda lles ariannol.
Bydd y sesiwn yn trafod:
- Cyflwyniad i'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau
- Beth yw Lles Ariannol a pham ei fod yn bwysig?
- Cyflwyniad i MoneyHelper/HelpwrArian
- Darganfyddwch pa ganllawiau, offer ac adnoddau arian a phensiwn am ddim sydd ar gael
- Sesiwn Holi ac Ateb a thrafodaeth
Ariennir y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan Lywodraeth y DU ac mae鈥檔 gweithio gyda phartneriaid ar draws y DU, i wneud yn si诺r bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau arian a phensiynau o ansawdd uchel a chyngor ar ddyledion drwy gydol eu hoes.
Fel gwasanaeth diduedd, anfasnachol, mae MaPS yn cynnal gwefan Money Helper/ Helpwr Arian, sy鈥檔 rhoi gwybodaeth ac arweiniad clir, hygyrch ar ystod eang o bynciau ariannol, gyda nifer o declynau a chyfrifianellau ar-lein i helpu鈥檙 cyhoedd i fynd i鈥檙 afael聽
ag unrhyw faterion ariannol personol, pryderon a chymorth ar sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gweithdai Ymwybyddiaeth Ariannol a Chynllunio
Os ydych chi eisiau parhau i adeiladu ar eich dealltwriaeth o les ariannol cadwch olwg am fanylion cofrestru ar gyfer y gweithdy dwy ran hwn a fydd yn cael ei gynnig mewn partneriaeth 芒 Planned Futures.
Gweithdy Rhan 1 - Sylfaen mewn Lles Ariannol
Dyddiad ac amser: Dydd Mercher, 16 Tachwedd 鈥 12:30pm 鈥 1:30pm
Nod y gweithdy hwn yw eich helpu i:
- archwilio eich meddylfryd arian
- deall sicrwydd ariannol
- adeiladu arferion ariannol da
Gweithdy Rhan 2 - Sylfaen mewn Cynllunio Ariannol Personol
Dyddiad ac amser: Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2:00-3:30pm
Nod y gweithdy hwn yw eich helpu i:
- Gwneud cynllun ariannol
- Cymryd rheolaeth ar gyllid dyddiol
- Ymdopi 芒 Sioc Ariannol
- Ariannu eich dewisiadau bywyd
Cynhelir y gweithdai ar-lein dros Teams, ond bydd ystafell gynhadledda yn cael ei drefnu ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno bod yn rhan o鈥檙 gweithdy ar y campws.
Cadwch y dyddiadau yn eich dyddiadur a chadwch olwg am y ddolen gofrestru sy'n dod yr wythnos nesaf.