Fe wnaed y rhodd £50,000 i’r Brifysgol gan Mr Francis Glynne Jones, cyfreithiwr sydd wedi ymddeol, o ystâd ei ddiweddar frawd, Colin Glynne Jones, a fu farw yn ddiweddar.
Bydd y rhodd yn cael ei defnyddio er budd myfyrwyr sydd yn gobeithio astudio Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y dyfodol.
Rhennir y rhodd hael, er cof am ei frawd Colin Glynne-Jones, rhwng adrannau Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Defnyddir y Gronfa i ddarparu bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n dangos addewid academaidd mawr ac i gynnig grantiau sydd wedi eu hanelu’n benodol at gefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd llai breintiedig, nad oes neb yn eu teulu wedi astudio mewn prifysgol. Bydd y rhoddion hefyd yn cefnogi cymunedau ac ysgolion i baratoi myfyrwyr y dyfodol at astudio Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Roedd yn bleser o’r mwyaf croesawu Francis Glynne Jones, ei deulu a chyfeilion i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae’r teulu’n meddu ar lu o gysylltiadau clos â’r ardal a’r sefydliad, o’i dyddiau cynharaf yng nghanol y deunawfed ganrif. Rydym yn hynod ddiolchgar am rhodd hael Francis. Bydd yn gwneud gwahaniaeth pendant i’r cyfleoedd y gallem gynnig i fyfyrwyr presennol ac i’r dyfodol, sydd yn astudio neu’n bwriadu astudio llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol. Dyma deulu sydd yn gwerthfawrogi grym addysg i newid bywydau. Rydym yn rhannu’r un nod a bydd y gymynrodd o gymorth wrth i ni gyflawni’r trawsnewid hwnnw ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ym Mangor.
Croesawyd Francis, ei frawd Robert, cefnder Peter Humphreys Jones a chyfaill teuluol, John Evans gan yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor y Brifysgol. Yna rhoddwyd  cyflwyniad gan fyfyrwyr yr adrannau perthnasol.
Mae gan Mr Glynne Jones ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth ac mae’r bardd Garmonydd (Humphrey Bradley Jones 1840-1903), a oedd ymysg y myfyrwyr cyntaf i astudio yn y Coleg Normal yn un o’i hynafiaid.Â