Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal un o blith dim ond chwech canolbwynt rhanbarthol ar gyfer a bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal o 10 i 19 Tachwedd mewn lleoliadau ledled yr ardal. Dyma’r tro cyntaf i Å´yl y Dyniaethau ddod i ogledd Cymru.Â
Mae'r naw sesiwn gweithgaredd a gynhelir gan ar gyfer pobl o bob oed. Y nod yw dangos sut y gall ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau ein helpu i weld y byd o’n cwmpas yn wahanol. Beth mae bod yn ddynol yn ei olygu yng ngogledd Cymru?
Os oes gennych ddiddordeb mewn archaeoleg neu yn yr Avant Garde, mewn ysgrifennu creadigol, hanes neu’r celfyddydau perfformio, fe welwch weithgaredd a fydd yn taflu goleuni newydd ar ein rhyngweithio ni ag amgylchedd gogledd Cymru a’r rhywogaethau eraill sydd yn rhannu’r ardal hon efo ni.Â
Meddai’r Athro Carol Tully o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n trefnu’r gweithgareddau:
“Rydym yn falch iawn o fod yn ganolbwynt rhanbarthol ar gyfer yr Å´yl Bod yn Ddynol. Mae’r ŵyl hon, sydd wedi bod yn cael ei chynnal ers blynyddoedd lawer bellach, yn ffordd ddelfrydol o arddangos rhywfaint o’r ymchwil hynod ddiddorol sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau.  Mae’r ŵyl yn gyfle delfrydol i ddangos sut mae ein gwaith yn cyfrannu at y ddadl ynghylch lle bodau dynol yn y byd naturiol drwy ein helpu i feddwl am yr effaith a gawn fel bodau dynol. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael croesawu pobl i'n gweithgareddau.''
Y digwyddiad a fydd yn lansio Canolbwynt ÑÇÖÞÉ«°É yw’r prynhawn ‘Writing with Birds’ a gynhelir ar y cyd ag Amgueddfa Llandudno, ac a fydd yn cynnwys taith gerdded wedi ei thywys, gweithdy ysgrifennu a chreu map rhithrealiti o’r Gogarth.Â
Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys gweithdai archaeoleg, 'digwyddiad' Avant-Garde, taith gerdded trwy orffennol Iddewig Llandudno a gweithdaith fotanegol.Â
Ydych chi’n chwilfrydig? Beth am ddod draw - ni fydd y byd o'ch cwmpas byth yn edrych yr un fath eto!
Ariennir Bod yn Ddynol gan Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, Cyngor Ymchwil y Celfyddudau a’r Dyniaethau UKRI a’r Academi Brydeinig. Rhaid archebu pob digwyddiad ymlaen llaw, ac mae'r holl weithgareddau i'w gweld ar y dudalen hon.