Cychwynnodd y gwaith ar drawsnewid Parc y Coleg i wneud y parc yn fan mwy hygyrch, diogel a chyfeillgar i gymuned ÑÇÖÞÉ«°É yn y gwanwyn.
Mae Parc y Coleg yn fan gwyrdd pwysig wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n cysylltu’r Brifysgol â’r ddinas.
Mae cam cyntaf y gwaith a oedd yn cynnwys teneuo rhywfaint ar ran goediog y parc a mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol wedi cael ei wneud. Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu gwelededd, gan greu gwell golygfeydd trwy'r parc, a chreu ymdeimlad o ddiogelwch yn y rhan is o’r parc, mae hefyd yn annog planhigion isel i dyfu, yn enwedig clychau’r gog.
Ddydd Mercher, 14 Medi, os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd gwaith i symud y 'Caban' yn cychwyn, ac fe fydd yn cael ei gadw mewn storfa gyda'r bwriad o ddod o hyd i gartref newydd iddo. Yn ei le bydd ardal berfformio fechan ac amffitheatr fach a fydd yn rhoi cyfle i arddangos talent artistig a pherfformio.
Mae'r prosiect wedi ei gyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio ac mae disgwyl iddo fynd i bwyllgor ym mis Hydref. Ar ôl i'r cynllunio cael ei gymeradwyo, bydd y prif waith yn dechrau gyda'r nod o gwblhau'r gwaith yn haf 2023.
Ariannir y project hwn drwy Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth â’r Brifysgol trwy Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth a manylion am gamau nesaf y project, ewch i: www.bangor.ac.uk/parc