Mae sicrhau nad yw ieithoedd lleiafrifol yn cael eu hanwybyddu鈥檔 hanfodol ac yn bosib wrth i ddatblygiad Deallusrwydd Artiffisial gamu ymlaen. Gall DA chwyldroi defnydd ieithoedd lleiafrifol gan sicrhau eu defnydd a鈥檜 ffyniant yn y byd digidol yn 么l Dr Cynog Prys o Brifysgol 亚洲色吧.聽
Bydd arbenigwyr mewn meysydd o DA a thechnoleg ddigidol, ieithyddiaeth a chymdeithaseg ledled Ewrop yn cydgyfarfod mewn digwyddiad a drefnir gan Dr Cynog Prys ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ar 9 Medi i drafod y chwyldro presennol a鈥檙 hyn sydd i ddod ym maes technolegau iaith a fydd yn effeithio ar ddefnydd iaith聽
Un o鈥檙 siaradwyr allweddol yn Technoleg a hawliau ieithyddol: edrych tua鈥檙 dyfodol yw Miriam Gerken, awdur adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgrifenyddiaeth Cyngor Ewrop ar sut y bydd DA yn effeithio ymrwymiad y Cyngor i gefnogi ieithoedd lleiafrifol drwy eu Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.
鈥淕all technolegau iaith a DA ddarparu symbyliad i warchod a hybu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol,鈥 esbonia Miriam.
鈥淏ydd galluogi pobol i ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol yn ddigidol, boed mewn swyddogaeth swyddogol, fel cwsmer neu i ymgysylltu ag eraill, yn fodd i ieithoedd llai eu defnydd barhau鈥檔 gyfoes ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol gwlad. Gall DA gyfrannu drwy sicrhau bod technolegau iaith fel cyfieithu peirianyddol, sgwrsfotiaid, synthesis llais a hyd yn oed is-deitlo awtomatig, sydd ei hangen i sicrhau bod fideos ar-lein yn cydymffurfio 芒 safonau hygyrchedd, ar gael yn dewis ieithyddol pobol.
鈥淢ae鈥檙 holl dechnolegau iaith hyn yn dibynnu ar ddata hyfforddi sydd yn cael ei brosesu gan ddefnyddio prosesu iaith naturiol (natural language processing neu NLP). Nod NLP yw datblygu rhaglenni gyda鈥檙 gallu i ddarllen, prosesu, dadansoddi ac yn y pendraw, deall iaith naturiol yn eu holl gymhlethdodau. Mae technolegau NLP yn cynnig posibiliadau diri ar gyfer defnyddio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn y byd digidol, sef pam bod angen iddynt fod yn rhan o warchod ieithoedd heddiw.鈥
Meddai Cynog,
鈥淢ewn sawl ffordd, mae鈥檙 iaith Gymraeg mewn sefyllfa gref, yn enwedig o鈥檌 gymharu ag ieithoedd lleiafrifol eraill. Mae technolegau iaith Gymraeg yn ein galluogi i ddefnyddio Cymraeg yn y sff锚r digidol, ond mae heriau yn dal i fodoli tra bod y cynnig digidol yn gynyddol soffistigedig.鈥
鈥淕olyga鈥檙 ffaith nad yw鈥檙 sector breifat yn cael ei gynnwys o dan ddeddfwriaeth Cymraeg presennol fod canran helaeth o鈥檔 bywydau digidol, sydd yn cael eu defnyddio gan siaradwyr Cymraeg, yn parhau i fod ar gael drwy Saesneg yn unig. Yr her ganolog ar gyfer technolegwyr iaith Gymraeg a鈥檙 gwneuthurwyr polisi yw canfod datrysiadau technolegol i鈥檙 broblem.鈥
Trefnir Technoleg a hawliau ieithyddol: edrych tua鈥檙 dyfodol gan Language in the Human-Machine Era, 聽rhwydwaith o arbenigwyr ledled Ewrop. Mae鈥檙 cyfan yn ran o weithgareddau rhwydwaith COST (European Cooperation in Science and Technology) 聽sy鈥檔 cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae鈥檙 digwyddiad sydd yn ddi-d芒l i fynychu yn cynnwys arddangosfa gyda sgyrsiau gan dechnolegwyr blaenllaw Ewrop gan gynnwys Hillary Juma, Rheolwr Cymunedau Common Voice, project Ewropeaidd i greu set ddata ddigidol llais, wedi ei bweru gan leisiau gwirfoddolwyr o amgylch y byd. Gall y set ddata ddigidol ei defnyddio i adeiladu apiau i hyfforddi modelau dysgu peirianyddol.
Hefyd yn yr Arddangosfa bydd cyfle i weld rhai o鈥檙 technolegau diweddaraf. Mae'r rhain yn cynnwys LinguaSkin, sydd yn caniat谩u cynnig apiau we amlieithog, y cynorthwyydd llais Cymraeg, Macsen, a phrojectau sydd ar y gweill gan 聽Ganolfan Bedwyr ac Uned technolegau Iaith Prifysgol 亚洲色吧.
Mae modd archebu tocyn i fynychu鈥檙 digwyddiad rhad ac am ddim wrth ddilyn: