Roedd graddedigion o 2020 a 2021 yn ymuno â myfyrwyr 2022 Ìýa oedd yn graddio mewn dathliad tair blynedd dros dair wythnos o ddydd Iau, 30 Mehefin i ddydd Iau, 14 Gorffennaf.Ìý
Roedd miloedd o bobl yn graddio yn neuadd y brifysgol ar ben y bryn, Neuadd Prichard Jones, sy'n dyddio'n ôl i 1911 a lle storiwyd dros 500 o baentiadau, gan gynnwys gweithiau gan Botticelli, Rubens a Rembrandt, pan gawsant eu cludo i le diogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae ein myfyrwyr wedi ymateb i heriau personol a dysgu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 ac felly bydd yn bleser mawr pan ddown i gyd at ein gilydd i ddathlu eu llwyddiannau.
Ìý
Rydym hefyd yn falch iawn ein bod wedi croesawu nifer o bobl enwog lwyddiannus i’n seremonïau graddio i’w gwobrwyo am eu cyfraniadau gwerthfawr i Gymru a’r gymdeithas ehangach. Gobeithiwn y byddant yn ysbrydoli ein graddedigion newydd i ddilyn eu breuddwydion ac anelu at wneud gwahaniaeth yn eu meysydd gwahanol.
Rhoddir graddau er anrhydedd i’r canlynol:Ìý
Y cyn Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland QC .
Yr entrepreneur technoleg Simon Gibson CBE Ìýsy’n Gadeirydd Sefydliad Entrepreneuriaeth Graddedigion Alacrity ac yn Brif Weithredwr Wesley Clover Cymru.
Dr Rebecca Heaton, arweinydd newid hinsawdd y DU ac un o raddedigion ÑÇÖÞÉ«°É.Ìý
Arfon Jones, graddedig o Fangor sy’n enwog am ei gyfraniad i ddiwylliant crefyddol Cymru a chynhyrchu testun syml, dealladwy ac ysgrif academaidd o’r Beibl Cymraeg sy’n cyd-fynd â diwylliant cyfoes.
Y sŵolegydd blaenllaw a chyn-ddarlithydd ym Mangor, Arglwydd John Krebs FRS, cyn brif weithredwr NERC, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol sy'n enwog am ei ymchwil dylanwadol ym maes adareg.
Tudur Owen, y digrifwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobr BAFTA am ei gyfraniad i adloniant.
Y DJ Cymraeg, Sasha i gydnabod ei yrfa ddylanwadol fel DJ a chynhyrchydd recordiau.
Un o ddynion busnes mwyaf llwyddiannus Cymru, Nigel Short, cyfarwyddwr Wisgi Penderyn.
Rachel Taylor, chwaraewr rygbi’r undeb o ogledd Cymru a hyfforddwr sydd wedi ennill cap 67 o weithiau yn chwarae dros Gymru.
Simon Thompson, Prif Weithredwr Sefydliad y Bancwyr Siartredig sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i gyflwyno ein cwrs MBA Banciwr Siartredig, yr unig gymhwyster bancio yn y byd sy’n cyfuno MBA a statws Banciwr Siartredig. Ìý
Am ei chyfraniad i fenywod ym myd gwyddoniaeth, y biolegydd morol, yr arbenigwraig pysgodfeydd a’r myfyriwr graddedig o Fangor, Zaha Waheed, Gweinidog yn Swyddfa’r Llywydd yn y Maldives a sefydlodd lwyfan cenedlaethol ar gyfer lleihau risg trychineb yn dilyn tswnami Cefnfor India yn 2004.
Yr awdur, digrifwr ac ymgyrchydd iechyd meddwl Americanaidd-Prydeinig, Ruby Wax OBE, sy’n darlithio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.Ìý
Dr Debbie Williams, cyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau, confused.com, a chyn enillydd y wobr Arloeswraig y Flwyddyn yng Nghymru.
Menai Williams, a raddiodd o Fangor ac sy’n un o feirniaid, tiwtoriaid a chyfansoddwyr cerdd mwyaf blaenllaw Cymru a fu’n delynores ac yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 40 mlynedd. Ìý
Y dyn camera bywyd gwyllt o'r Alban a aned yn Swdan ac a raddiodd o Fangor, Hamza Yassin, sy’n adnabyddus i blant ym mhob man fel Ranger Hamza.