Mae’r Gymrodoriaeth, a gyllidir gan un o brif gyrff cyllido ymchwil y Deyrnas Unedig sef y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Economic Social Research Council / ESRC), yn galluogi Dr Wynne-Jones i gefnogi tîm Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am lunio polisi neilltuol ar gyfer Cymru, yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y newid polisi hwn hefyd yn yflawni ymrwymiadau Cymru i fynd i’r afael ag Argyfwng yr Hinsawdd a galluogi’r sector amaeth i gyrraedd allyriadau o Net Sero. Golyga hynny weithgareddau fel plannu coed a gwell rheolaeth dros y pridd ar ffermydd er mwyn storio carbon, yn ogystal â defnydd gwell ar adnoddau er mwyn lleihau baich amgylcheddol amaethyddiaeth.
Bydd Dr Wynne-Jones yn gweithio efo Llywodraeth Cymru er mwyn deall sut y gall eu polisïau sbarduno newidiadau diwylliannol a busnes mewn amaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau cynaladwyedd y diwydiant.
Dywedodd Dr Wynne-Jones:
“Mae’r cyfle i weithio efo Llywodraeth Cymru ar y dasg allweddol hon mewn cyfnod o newid mawr yn gyffrous. Yn sgil Brexit mae popeth yn newid i’r sector ffermio. Mae’n hanfodol bod cynlluniau rheolaeth tir newydd yn cyrraedd y nod o ran yr amgylchedd, ond mae angen eu cynllunio’n dda i sicrhau eu bod yn gweithio i fusnesau a chymunedau ffermio, neu ni fydd neb yn ennill.
Mae ffermio o dan bwysau mawr ac mae dan y lach yn y wasg oherwydd yr effeithiau amgylcheddol negyddol a all ddeillio o’i weithgareddau. Ond mae ffermwyr Cymru’n gwneud yn iawn mewn nifer o ffyrdd, ac mae llawer o botensial i wneud pethau’n well. Dyna pam mae’n bwysig gweithio’n effeithiol gyda’r diwydiant wrth ddatblygu cynlluniau newydd.
Bydd y Gymrodoriaeth yn gyfle gwych imi roi fy arbenigedd ar waith, a hefyd i rannu’r cyfoeth o ymchwil yr ydym yn ei gynnal ar sustemau amaethyddol a defnydd tir cynaliadwy yma ym Mhrifysgol ɫ. Mae’n rhoi ɫ ar y map i fod ar flaen y gad mewn ymchwil sy’n cefnogi dyfodol cynaliadwy i’r dirwedd.”
Dywedodd Ann Humble, Pennaeth Dadansoddiad Strategol, Grŵp Newid HInsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru’n falch i fod yn rhan o’r fenter newydd gyffrous yma gan ESRC. Bydd yn galluogi Dr Wynne-Jones i fod yn rhan o’n gwasanaethau tystiolaeth ac ymchwil i’r Grŵp Neid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae’r rôl yn rhoi cyfle i academydd gynnig dirnadaeth fethodolegol ac arbenigol yn syth i’r timau Polisi sy’n datblygu polisïau newydd a chynnig syniadau newydd ac arloesol i wella rhaglenni sy’n bodoli eisoes.”
Dechreuodd y Gymrodoriaeth fis Ionawr 2022 a bydd yn parhau am 18 mis. Mae'n rhedeg fel rhan o raglen beilot Cymrodoriaethau Polisi ESRC.
The fellowship began in January 2022 and will run over the next 18 months. It is running as part of the ESRC Policy Fellowships pilot programme.