Myfyrwyr PhD yn teithio i Boston i drafod ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial
Teithiodd dau fyfyriwr PhD o Fangor, gyda chefnogaeth canolfan hyfforddiant doethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch Gyfrifiadura (AIMLAC), i Boston i ymweld â Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Cyllidir AIMLAC gan UK Research and Innovation (UKRI).
Bu’r grŵp o 12 o fyfyrwyr PhD a dau academydd yn cyfnewid syniadau ymchwil ynglŷn â deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, ac addysg a hyfforddiant ym maes gwyddor data. Cyflwynodd dau fyfyriwr o Fangor, chwech o Abertawe a dau yr un o brifysgolion Bryste a Chaerdydd eu hymchwil mewn sgyrsiau a chymryd rhan mewn cyfarfodydd i drafod sut mae cymhwyso deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol mewn ymchwil wyddonol yn ogystal ag addysg a hyfforddiant y genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddor data/dysgu peirianyddol.
Aeth y ddirprwyaeth, dan arweiniad yr Athro Gert Aarts (o Brifysgol Abertawe, ac arweinydd y cyd-broject AIMLAC), hefyd i ymweld â’r AI Institute for Artificial Intelligence and Fundamental Interactions (IAIFI) sy’n rhan o’r National Science Foundation (NSF). Cafodd y grŵp eu croesawu gan yr Athro Jesse Thaler a Dr Phiala Shanahan.
Yn y llun mae dirprwyaeth AIMLAC ac aelodau IAIFI o flaen Cromen Fawr MIT.
Meddai Iwan Mitchell (myfyriwr PhD sy’n astudio ail-greu ac optimeiddio pelydr-X): “Mae’r amser a dreulion ni yn MIT yn rhywbeth na fydda i byth yn ei anghofio. Roedd y pynciau gan AIFAI ac AIMLAC yn ddiddorol ac yn ennyn chwilfrydedd, a chefais amser gwych yn trafod ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial gyda'r tîm yn MIT. Roedd Boston yn lle hardd, a chawsom hyd yn oed amser i ymweld â'r acwariwm lleol! Roedd yr ymchwil a gyflwynwyd yn ysbrydoli rhywun, ac mae wedi rhoi llawer o syniadau i mi ar gyfer fy ymchwil.”
Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (arweinydd Prifysgol ɫ yn AIMLAC) “Roedd y daith i Boston yn gyfle gwych i’r myfyrwyr. Mae rhaglen ddoethurol AIMLAC wedi darparu cyfleoedd sydd ymhell tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl gyda phroses PhD draddodiadol. Maen nhw wedi dod yn ôl oddi ar y daith yn gyffro i gyd, gyda llawer o syniadau ymchwil newydd.”
Editor: J. C. Roberts