Blade Runner @ 40
Bydd cynhadledd, yr unig un o'i bath i'w chynnal yn y Deyrnas Unedig, yn trafod gwaddol Blade Runner.
Mae’r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'r École Polytechnique ym Mharis.
Bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o academyddion o bob rhan o'r byd yn trafod y ffilm o amrywiaeth o safbwyntiau. Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun 6 Mehefin a dydd Mawrth 7 Mehefin ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Yr uchafbwynt fydd trafodaeth yn y cnawd gydag Ivor Powell, un o gynhyrchwyr gwreiddiol Blade Runner. Bu’r awdur a’r cynhyrchydd Ivor Powell yn gweithio am bron i dair blynedd fel cynorthwyydd i Stanley Kubrick ar 2001: A Space Odyssey a bu’n gynhyrchydd llinell i Ridley Scott ar The Duellists ac Alien yn ogystal â llawer o brojectau eraill ers hynny.
Dr Sherryl Vint (UC Riverside), arbenigwraig gydnabyddedig ar ffuglen wyddonol yn gyffredinol a Blade Runner yn benodol, fydd yn rhoi’r brif ddarlith.
Bydd dangosiadau o Blade Runner a Blade Runner 2049 yn Sinema Pontio yn dilyn y ddwy drafodaeth.
Mae ffilm nodedig Ridley Scott yn addasiad o nofel Philip K Dick, Do Androids Dream of Electric Sheep?, ac mae wedi gadael ei hôl ar ddiwylliant poblogaidd. Rhagwelodd y byd yr ydym wedi byw ynddo yn ystod y pedwar degawd diwethaf. Creodd weledigaeth syfrdanol Scott o fetropolis dyfodolaidd a chosmopolitan ysgytwad esthetig sy'n parhau i atseinio hyd heddiw, nid yn unig yn y sinema ond hefyd mewn llenyddiaeth, celf, dylunio, gemau, ffasiwn a hyd yn oed theori feirniadol.
Meddai trefnydd y gynhadledd, yr athro ffilm Nathan Abrams, Mae'r gynhadledd yma, a gynhelir gan Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn dod ag ysgolheigion o amryw o gefndiroedd a disgyblaethau ynghyd i gnoi cil ynglÅ·n â Blade Runner a hynny ddeugain mlynedd ers ei rhyddhau, trafod gwaddol y ffilm ac ystyried ei lle o fewn y diwylliant gweledol.
Ariannwyd y digwyddiad gan Gymdeithas Astudiaethau America Prydain, Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a’r École Polytechnique ym Mharis. I gael gwybod mwy ac archebu eich lle, ewch i:
Delwedd Blade Runner Â