Cynhadledd Ymchwil Ôl-radd y Gwanwyn
Cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Ôl-radd y Gwanwyn, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, yn Pontio ddydd Sadwrn, 26 Mawrth, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Daeth nifer fawr o fyfyrwyr a staff i’r digwyddiad, yn y cnawd a thrwy Zoom. Â
Dechreuodd y gynhadledd gydag anerchiad croeso gan yr Athro Martina Feilizer, Deon y Coleg, a amlygodd bwysigrwydd yr ymchwil a wneir gan ôl-raddedigion y coleg a nododd fod y digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu amrywiaeth eang y gwaith ymchwil sy’n digwydd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.Â
Roedd rhaglen y gynhadledd yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwnnw, gyda phapurau'n ymdrin â phynciau megis llenyddiaeth, y gyfraith, ieithyddiaeth, cerddoriaeth, athroniaeth, ffilm, a drama. Cafodd dau bapur eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg gan amlygu pwysigrwydd ymchwil yn y Gymraeg o fewn y coleg. Ar ddiwedd pob papur, cafwyd trafodaeth fywiog, a bu’r trafod yn parhau dros amser cinio a thrwy gydol yr amseroedd paned.Â
Yn ystod y diwrnod hefyd lansiwyd blodeugerdd o gerddi a rhyddiaith a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr MA yr adran Saesneg, o dan y teitl Sonder. Yn ogystal â dosbarthu copïau o'r gyfrol, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddarllen ambell ddetholiad o'r gwaith a gyhoeddwyd ganddynt yn y flodeugerdd.Â
Daeth y gynhadledd i ben gyda gair o ddiolch gan yr Athro Pwyll ap Sion ac aelodau o bwyllgor y gynhadledd. Bu’n ddiwrnod o gyflwyniadau diddorol, a oedd yn adlewyrchu ansawdd uchel ac amgylchedd ymchwil amrywiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.