Mae ecosystemau llynnoedd, a'r organebau sy'n byw ynddynt, yn agored i newid tymheredd, gan gynnwys y cynnydd mewn gwres ac oerfel eithafol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod rhyw lawer am donnau gwres mewn llynnoedd — cyfnodau o dymheredd cynnes iawn mewn dŵr arwyneb llynnoedd — a sut y gallant newid gyda chynhesu byd-eang.
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol ɫ a’r European Space Agency, newid hinsawdd a achosir gan ddyn sy'n gyfrifol am gynnydd mewn tonnau gwres mewn llynnoedd dŵr croyw.
Mae llynnoedd yn ffynhonnell hanfodol o ddŵr croyw ac yn darparu gwasanaethau gwerthfawr fel dŵr yfed, dyfrhau, a bwyd, yn ogystal â bod yn rhan allweddol o'r amgylchedd naturiol. Nid ydym yn gwybod rhyw lawer am yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd wedi’i chael, ond yr ymchwil arloesol hwn yw’r cam cyntaf tuag at geisio unioni effeithiau negyddol tywydd poeth.
Mae'r dadansoddiad yn canolbwyntio ar amlder tonnau gwres o sampl o lynnoedd mwyaf y byd dros gyfnod o 20 mlynedd ac yn modelu pa mor aml y byddant yn digwydd o dan newid hinsawdd.
Gwelwyd bod llynnoedd wedi profi cynnydd chwe gwaith yn fwy o donnau gwres ers 1995. Gwelwyd cynnydd penodol ym mlynyddoedd ‘poeth’ 2010, 2012 a 2016, gyda’r nifer fwyaf o donnau gwres (157) yn cael eu cofnodi yn y llynnoedd a gafodd eu monitro yn 2016.
Mae archwiliad pellach yn dangos y gellir priodoli 94% o'r tonnau gwres a arsylwyd fel rhai 'difrifol', yn rhannol o leiaf, i newid yn yr hinsawdd.
Er bod data lloeren a’r modelu ar gyfer y 78 o lynnoedd mawr a astudiwyd yn awgrymu bod y llynnoedd hyn ddwywaith a phum gwaith yn fwy tebygol o brofi tonnau gwres difrifol mewn byd 1.5°C a 3.5°C yn gynhesach, mae’r wybodaeth am lynnoedd llai yn waeth o lawer.
Gan edrych ar raddfa fyd-eang, a chynnwys llynnoedd llai, mae’r model yn awgrymu y bydd tonnau gwres difrifol 25 gwaith yn fwy tebygol mewn byd 3.5 yn gynhesach.
Yr hyn a oedd yn sefyll allan oedd maint y cyfraniad dynol. Roedd ôl anthropogenig sylweddol ar y rhan fwyaf o'r achosion o donnau gwres difrifol mewn llynnoedd a edrychwyd arnynt. Ac o edrych ar sut y bydd y tonnau gwres hyn yn newid yn y dyfodol, roedd maint y newid yr ydym yn disgwyl ei weld yn y degawdau nesaf yn eithaf trawiadol.
Gellir priodoli 94% o'r tonnau gwres difrifol a welwyd mewn llynnoedd yn y degawdau diwethaf yn rhannol i newid yn yr hinsawdd.
Mae’n bosib bod yr effeithiau hyd yn oed yn waeth mewn llynnoedd bychain
Mae llynnoedd yn ecosystemau cymhleth iawn, ac yn amrywio yn eu hecoleg, yn dibynnu ar eu lleoliad.
Bydd rhai o effeithiau cyffredin gwres uwch yn cynnwys mwy o flwmiau algaidd, sy'n tynnu ocsigen o'r dŵr ac yn fygythiad difrifol i anifeiliaid a bodau dynol sy'n dibynnu ar lynnoedd fel ffynhonnell dŵr croyw. Mae dyfroedd cynhesach hefyd yn golygu mwy o anweddu a llai o gymysgu, wrth i ddŵr y llyn fynd yn haenedig gyda dŵr poeth ar yr arwyneb a dŵr oerach wedi'i ddal oddi tano. Gall y ddau fater olygu llai o ocsigen, a all roi straen ar bethau sy’n byw mewn llynnoedd fel pysgod sydd angen anadlu.
Mae organebau sy'n byw ar ben eithaf eu hamrediad tymheredd mewn perygl yn y llynnoedd mawr.
Ychwanegodd Iestyn: “Yn wahanol i fodau dynol, sy’n gallu mynd mewn i adeiladau gydag aerdymheru neu adeiladu cysgod mewn argyfwng, does dim dianc i organebau dyfrol pan maent yn agored i’r tymereddau eithafol hyn.”
“Gallwn ddisgwyl, os yw’r cronfeydd mawr hyn o ddŵr fel y Great Lakes yn profi’r tonnau gwres hyn, yna mae’n rhaid bod yr effeithiau yn digwydd hefyd, a gallent fod hyd yn oed yn waeth mewn cronfeydd llai o ddŵr sy’n fwy bas,” ychwanegodd.
Y cam nesaf i'r tîm ymchwil yw cysylltu'r ffiseg â'r ecoleg er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r goblygiadau i lynnoedd dŵr croyw.