Bydd Iwan Llewelyn Jones yn ymuno â Cherddorfa Symffoni y Brifysgol nos Wener yma 25 Chwefror yn Neuadd Prichard-Jones wrth i ddathliadau #Cerddoriaeth100 barhau.
Yn enedigol o Ogledd Cymru, mae Iwan wedi cael ei ddisgrifio fel ‘pianydd gyda chwaeth berffaith, hyder a sensitifrwydd steilus' (Daily Telegraph) a daeth yn Gyfarwyddwr Perfformio Cerddorol y Brifysgol yn 2021.
Bydd yn perfformi Concerto Piano Edvard Grieg yn A Leiaf fel rhan o raglen y noson.
Wrth i ni ddathlu can mlynedd o greu cerddoriaeth yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, mae’n bleser cael ymuno â Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol dan arweiniad Gwyn L Williams er mwyn perfformio un o’r concertos piano mawr yn ein repertoire. Mae’n byrlymu efo alawon, mae 'na dipyn bethau bach technegol heriol ond gyda digon hwyl a digon o angerdd yn y gerddoriaeth!
Graddiodd Iwan o Brifysgol Rhydychen a’r Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, ble enillodd llu o wobrau a chystadlaethau am ragoriaeth academaidd a phianyddol. Mae wedi profi llwyddiant mewn cystadlaethau piano rhyngwladol yn Sbaen, Ffrainc, Yr Eidal a Phrydain, ac wedi perfformio yn rhai o neuaddau cyngerdd mwyaf enwog y byd gan gynnwys Neuadd Wigmore yn Llundain, y Queen Elizabeth Hall, Leipzig Gewandhaus, Tŷ Opera Sydney a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ym mis Hydref 2018, aeth i Tsieina er mwyn rhoi cyfres o gyngherddau a dosbarthiadau meistr yn Beijing, Shanghai a Guangzhou.
Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys y Dance Overture gan William Mathias, Andante Festivo gan Sibelius a’r Symffoni 8 yn G Fwyaf gan AntonÃn Dvořák.
Nos Wener, 25 Chwefror, 7.30pm, Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.