Parc y Coleg i gael ei drawsnewid yn barc addysg ac adloniant llawn bywyd a chyffro.
Bydd gwaith yn dechrau ar drawsnewid Parc y Coleg i wneud y parc yn fan mwy hygyrch, diogel a chyfeillgar i gymuned ÑÇÖÞÉ«°É.
Mae Parc y Coleg yn fan gwyrdd pwysig wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n cysylltu’r brifysgol â’r ddinas.Ìý
Yn dilyn ymgynghoriad agored gyda budd-ddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd, nodwyd amrywiol faterion yn cynnwys hygyrchedd, diffyg cysylltiadau rhwng llwybrau troed ÑÇÖÞÉ«°É uchaf ac isaf, llystyfiant trwchus, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch.Ìý
Gydag arian wedi ei sicrhau ar gyfer y project hwn gan Gyngor Sir Gwynedd mewn partneriaeth â’r brifysgol trwy gynllun ‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru, bydd y gwaith yn dechrau y mis yma gyda nod uchelgeisiol o gwblhau’r project y flwyddyn nesaf.Ìý
²Ñ±ð»å»å²¹¾±â€™r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters; “Rydym eisiau bywiogi canol ein trefi ac rwy’n falch ein bod wedi medru cyfrannu at y project pwysig yma trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Dylai Parc y Coleg fod yn gaffaeliad pwysig i’r ddinas, gan ei fod dros y lôn o’r brif ardal siopa. Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad hwn yn creu ardal llawer mwy deniadol i bobl ei ddefnyddio yng nghanol y ddinas. Gwyddwn fod treulio amser mewn ardaloedd gwyrdd yn wych ar gyfer lles, felly rydym eisiau annog pobl i gymryd amser i’w hunain i ymarfer corff a mwynhau byd natur, tra hefyd yn darparu gofod cyhoeddus hygyrch ar gyfer digwyddiadau allanol.â€
Ychwanegodd Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi project Parc y Coleg a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar ganol y ddinas. Bydd yn creu ardal braf i’r gymuned a phawb sy’n ymweld â ÑÇÖÞÉ«°É i’w mwynhau. Mae’r buddsoddiad hwn yn cyfrannu’n gadarnhaol at adfywio canol dinas ÑÇÖÞÉ«°É.â€
Y weledigaeth ar gyfer y parc yw ei agor a chreu man gwyrdd croesawgar yn ninas ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n ddiogel ac yn hygyrch i bawb. Bydd y datblygiad yn cynnwys mannau canolbwyntio yn ogystal â gwell parthau natur, gan gynnwys llwybrau coetir a mannau arsylwi bywyd gwyllt. Creu lle sy’n annog y cyhoedd i’w ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fach, ymarfer corff, cyfarfod â ffrindiau neu gerdded o’r naill rhan o’r ddinas i’r llall.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau gyda theneuo rhywfaint ar ran goediog y parc, yn enwedig coed sydd â phroblemau iechyd neu wedi'u nodi fel rhai sydd angen gwaith adferol. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynyddu gwelededd, gan greu gwell golygfeydd trwy'r parc, ac yn annog planhigion isel i dyfu, yn enwedig clychau’r gog. Caiff yr holl goed sy'n cael eu torri eu hailgylchu a'u hailddefnyddio yn y parc ar amrywiol ffurfiau.Ìý
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd gwaith yn cael ei wneud i symud y 'Caban' a'i gadw mewn storfa gyda'r bwriad o ddod o hyd i gartref newydd iddo. Yn ei le bydd ardal berfformio fechan ac amffitheatr fach a fydd yn rhoi cyfle i arddangos talent artistig a pherfformio.
Meddai Lars Wiegand, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws “Rydym mor ffodus i gael man gwyrdd mor fawr mor agos at ganol y ddinas, sy'n creu 'pont o dir' gwyrdd rhwng y brifysgol a'r ddinas. Rhoddwyd y tir i'r brifysgol gan y ddinas, pan adeiladwyd prif adeilad y brifysgol. Ac rydym eisiau ei wneud yn le dymunol a phoblogaidd i bawbâ€
Am ragor o wybodaeth a manylion am gamau nesaf y project, ewch i: www.bangor.ac.uk/parc
Ìý