Mae鈥檙 pandemig COVID-19 wedi tanlinellu'r cysylltiad rhwng ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd a chlefydau trosglwyddadwy.听
Os ydym am ymdrin yn llwyddiannus 芒 phandemig yn y dyfodol, a lleihau eu heffaith ar iechyd pobl a鈥檔 systemau gofal iechyd byd-eang, rhaid i ni fuddsoddi er mwyn datblygu poblogaethau mwy ffit, iachach, mwy gwydn sy鈥檔 llai tebygol o gael eu heintio 芒 chlefydau trosglwyddadwy ac yn llai tebygol o ddatblygu symptomau mwy difrifol os ydynt yn cael eu heintio.
Mae'r pandemig COVID-19 diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith bod unigolion sy鈥檔 ymddwyn mewn ffordd sy鈥檔 niweidiol i鈥檞 hiechyd fel gordewdra ac ysmygu, sy'n gysylltiedig yn fwy cyffredin 芒 chlefydau anhrosglwyddadwy, yn fwy tebygol o ddal COVID-19 a dioddef canlyniadau gwaeth.
Mae synthesis newydd o ymchwil sy'n edrych ar COVID-19 ac amrywiaeth o wahanol glefydau trosglwyddadwy yn awgrymu, os ydym am baratoi at bandemigau clefyd heintus yn y dyfodol, bod rhaid i ni geisio datrys yr argyfyngau iechyd byd-eang parhaus sy'n ymwneud 芒 gordewdra, diffyg gweithgarwch corfforol, ysmygu ac yfed alcohol.听
Yn y , cyfunodd Dr Sophie Harrison a chydweithwyr yn yr Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Y, Prifysgol 亚洲色吧, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ganfyddiadau o 53 adolygiad, a oedd yn cynnwys dros 2000 o ddarnau unigol o ymchwil, ar ymddygiad sy鈥檔 niweidiol i iechyd iechyd (ysmygu, camddefnyddio alcohol, defnyddio cyffuriau, gordewdra, diffyg gweithgarwch corfforol) a'u cysylltiad 芒 gwahanol afiechydon heintus, gan gynnwys ffliw, twbercwlosis, hepatitis a COVID-19. Mae鈥檙 canfyddiadau yn awgrymu bod unigolion sydd yn ymddwyn mewn ffordd sy鈥檔 niweidiol i iechyd hefyd mewn mwy o berygl o ddal a/neu ddatblygu ffurfiau mwy difrifol o amrywiaeth o glefydau heintus.听
Cred yr awduron mai hwn yw'r tro cyntaf i adolygiad ddod ag astudiaethau ynghyd sy'n archwilio effaith ffactorau risg ymddygiadol ar amrywiaeth o afiechydon trosglwyddadwy.
Meddai Dr Sophie Harrison o Brifysgol 亚洲色吧:听
鈥淢ae ymddygiad penodol, fel defnyddio alcohol, ysmygu, gordewdra, a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, yn amharu ar y system imiwnedd. Gall nam ar y system imiwnedd wneud unigolion yn fwy agored i afiechydon trosglwyddadwy ac yn llai abl i reoli neu wella o haint, gan arwain at ganlyniadau gwaeth. Gall defnyddio alcohol neu gyffuriau hefyd leihau effeithiolrwydd triniaeth ar gyfer clefydau trosglwyddadwy.鈥
Meddai鈥檙 Athro Mark Bellis, cyd-awdur yr astudiaeth: 鈥淣id ydym yn gwybod pa organeb heintus fydd yn cynrychioli鈥檙 bygythiad mawr nesaf i iechyd byd-eang. Oherwydd hynny, rydym wedi archwilio sut mae risgiau haint a salwch o amrywiaeth o glefydau heintus yn cael eu heffeithio gan ymddygiad 'ffordd o fyw' sy鈥檔 nodweddiadol yn gysylltiedig 芒 chlefydau anhrosglwyddadwy fel diabetes a chanser. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod lleihau ymddygiad niweidiol i iechyd fel diet gwael, ysmygu a chamddefnyddio alcohol yn debygol o wella gwytnwch i wahanol heintiau a lleihau risgiau ac effeithiau bygythiadau clefydau heintus hysbys ac anhysbys yn y dyfodol."
Meddai Natasha Judd o Brifysgol 亚洲色吧: 鈥淢ae'n hysbys bod ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd yn clystyru ymhlith poblogaethau difreintiedig, ac felly mae rhwystro ymddygiad o鈥檙 fath, yn enwedig ymhlith poblogaethau difreintiedig, yn debygol o wneud cyfraniad mawr at leihau anghydraddoldebau iechyd a baich anghyfartal pandemigau yn y dyfodol鈥.
Meddai Sara Wood, prif awdur Iechyd Cyhoeddus Cymru: 鈥淕an fod diddordeb y cyhoedd mewn iechyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig COVID-19, mae hwn yn gyfle da i bobl ystyried y camau gallent eu cymryd i wella eu hiechyd er mwyn eu helpu i amddiffyn eu hunain rhag afiechydon trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy.鈥澨
听