Mae鈥檙 Athro Michaela Swales o Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol 亚洲色吧 wedi derbyn gwobr ymchwil am ei cyfraniad arbennig at ymchwil ym maes DBT, Dialectical Behaviour Therapy neu Therapi Ymddygiad Dilechdidol.
Cafodd y wobr ei gyflwyno i Michaela, sy鈥檔 Gyfarwyddwr Rhaglen Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, fel rhan o gynhadledd ar-lein y sefydliad International Society for Improvement and Teaching of DBT, sydd a鈥檌 phencadlys yn UDA.

Meddai Michaela, 鈥淢ae DBT yn driniaeth seicolegol sy鈥檔 helpu unigolion sy鈥檔 hunanladdol neu sy鈥檔 brifo eu hunain i adeiladu bywyd sy鈥檔 werth ei fyw. Mae DBT yn cael ei argymell mewn canllawiau gan NICE ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffordd yr ydym yn hyfforddi clinigwyr i roi鈥檙 driniaeth yma mewn modd effeithiol.
鈥淣id yw sicrhau bod triniaethau wedi eu selio ar dystiolaeth ar gael mewn practis clinigol arferol, ac i safon sy鈥檔 sicrhau bod pobl yn cael help o ansawdd uchel, mor hawdd 芒 hynny. Dyma be sy鈥檔 cael ei alw鈥檔 鈥榝wlch gweithredu鈥. Rwy鈥檔 angerddol am fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau sy鈥檔 atal bobl rhag derbyn gofal seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae鈥檔 fraint derbyn y wobr hon gan yr ISITDBT sy鈥檔 chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod therapyddion yn gwybod am yr ymchwil a鈥檙 ymarfer diweddaraf.鈥
Dywedodd Dr Caroline Bowman, Pennaeth dros dro yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, 鈥淗offwn longyfarch Michaela ar dderbyn y wobr arobryn yma, sy鈥檔 gydnabyddiaeth rhyngwladol hollol haeddianol am ei arweinyddiaeth sylweddol o ran gwella iechyd meddwl a lles.鈥
Ychwanegodd Nick Salsman o鈥檙 International Society for the Improvement and Teaching of DBT, 鈥淢ae鈥檙 wobr hon yn cydnabod cyfraniadau arbennig mewn ymchwil i mewn i DBT. Mae鈥檙 rhai sy鈥檔 derbyn y wobr ymchwil wedi gwneud mwy na鈥檙 arfer i gryfhau a ehangu ein dealltwriaeth gwyddonol o DBT, ac rydym yn falch iawn o gyflwyno鈥檙 wobr hon i鈥檙 Athro Swales o Brifysgol 亚洲色吧.鈥
Am ragor o wybodaeth ynglyn ag astudio y Gwyddorau Dynol ym Mangor cliciwch yma