Astudiaeth i effaith cam-drin plant gydol oes yn ennill clod cenedlaethol
Dyfarnwyd gwobr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am ragoriaeth ymchwil i astudiaeth sy'n nodi sut mae plant sy'n cael eu cam-drin yn fwy tebygol o ddioddef trais yn ddiweddarach mewn bywyd.
Enillodd y papur a luniwyd ar y cyd gan yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol 亚洲色吧, a Phrifysgol Lerpwl John Moores wobr yng nghategori Dewis y Bobl. Buont yn dadansoddi data鈥檙 ONS o arolwg troseddau Cymru a Lloegr i ddod i'w casgliadau.
Dim ond ychydig o gannoedd o brosiectau ymchwil sy鈥檔 cael caniat芒d gan yr ONS i ddefnyddio eu data diogel i sicrhau budd cyhoeddus i'r Deyrnas Unedig.
Canfu鈥檙 astudiaeth fod oedolion a gafodd eu cam-drin yn blant dros ddwywaith yn fwy tebygol o riportio ymosodiad corfforol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a thair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi profi trais o natur bersonol a/neu drais rhywiol.
Yn ogystal, roedd y plant hynny a ddioddefodd sawl math o drais hyd at saith gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trais yn oedolion.
Yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn gwybod trwy brofiad personol sut y gall hyd yn oed un digwyddiad treisgar niweidio eu hiechyd a鈥檜 lles yn ogystal 芒鈥檙 effeithiau hirhoedlog ar eu cymunedau.
Mae plentyndod saff a diogel yn hawl sylfaenol i bob plentyn ac mae'n cynyddu eu siawns o brofi bywyd iachach, mwy llewyrchus a di-drais yn sylweddol. Nid mater i gyfiawnder troseddol yn unig yw atal trais.
Dylai fod yn flaenoriaeth lle mae iechyd cyhoeddus yn y cwestiwn i sbarduno cymdeithas yn ei holl agweddau i ymyrryd cyn gynted 芒 phosibl i atal camdriniaeth plant a'r canlyniadau trasig sy'n aml yn eu dilyn trwy gydol eu bywydau.
Amcangyfrifir bod trais rhyngbersonol - hynny yw rhwng dinasyddion - yn costio hyd at 拢70 biliwn i'r wlad, gan gynnwys y niwed corfforol ac emosiynol i鈥檙 dioddefwyr, yr allbwn a cynhyrchedd coll i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, tai a gwasanaethau鈥檙 dioddefwyr.
Dangosodd canfyddiadau'r astudiaeth fod cysylltiadau cryf rhwng cam-driniaeth plant a dioddef trais yn oedolion; ymosodiadau 听corfforol yn y flwyddyn ddiwethaf, a thrais gan bartner agos a dioddef trais rhywiol ers yn 16 oed.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd effaith gronnus cam-drin plant. Gwelwyd bod y rhai a brofodd un math o gamdriniaeth dros ddwywaith yn fwy tebygol o brofi ymosodiad corfforol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a thair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi profi trais gan bartner agos a/neu drais rhywiol ers oeddynt yn 16 oed.听
Yn fwyaf arbennig, roedd yr unigolion hynny a brofodd sawl math o gam-driniaeth dair, chwech a saith gwaith yn fwy tebygol na'r rhai na chawsant eu cam-drin o gwbl o fod wedi profi trais corfforol, trais gan bartner agos neu drais rhywiol yn y drefn honno.
A bwrw bod dioddef trais yn oedolion yn debygol o waethygu effeithiau niweidiol y gamdriniaeth a gawsant yn blant, mae achos cryf dros ganolbwyntio ymdrechion y gwasanaethau iechyd cyhoeddus ar atal a lliniaru effeithiau camdriniaeth plentyndod.
Nid yn unig y bydd ymdrechion o鈥檙 fath yn lleihau鈥檙 risg o ddioddef trais drachefn, a gall hynny bara am oes, o gofio bod profi鈥檙 fath drais yn peri adfyd i鈥檙 genhedlaeth nesaf, mae鈥檔 ffordd bwysig o geisio atal cylchoedd o drais rhwng y cenedlaethau.
Mae achos cryf dros ganolbwyntio ymdrechion iechyd y cyhoedd ar atal a lliniaru effeithiau camdriniaeth yn ystod plentyndod.
Defnyddiodd y t卯m Arolwg Troseddau 2015/16 gan mai hwnnw yw'r cyntaf i gynnwys cwestiynau sy'n ymwneud 芒 chamdriniaeth seicolegol, corfforol a rhywiol lle mae plant yn y cwestiwn a thrais neu gamdrin domestig yn y cartref. Buont yn asesu cyfweliadau 芒 21,845 o oedolion a breswyliai ar aelwydydd rhwng 16 a 59 oed.
鈥淩oedd yn gyfle gwych inni ddefnyddio sampl gynrychioliadol genedlaethol i fwrw trem yn 么l ar y cysylltiadau rhwng cam-drin plant a thrais yn erbyn dioddefwyr yn y dyfodol a brofir fel oedolion,鈥 esboniodd yr awdur arweiniol Nadia Butler.
听