Gwobrwyo myfyrwraig fel rhan o ddathliadau deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg
Llongyfarchiadau i Sioned Spencer, myfyrwraig ôl-radd Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg, Prifysgol ɫ, sydd ymysg chwech o fyfyrwyr ar draws Cymru a fydd yn derbyn Gwobrau Myfyrwyr Coleg Cymraeg heno.
Bydd Sioned yn derbyn Gwobr Norah Isaac ar gyfer y myfyriwr sy’n derbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Bydd Sioned yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £200
Mae Sioned ymysg rhai o’r myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf ac mwyaf ymroddedig a darlithwyr cyfrwng Cymraeg sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21.
Cyflwynir Gwobrau sydd eleni’n nodi deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg heno (5 Hydref).
Meddai Sioned:
“Mae derbyn gwobr Norah Isaac yn anrhydedd mawr, a dwi’n ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am y cyfle i sefyll y Dystysgrif Sgiliau Iaith. Mae’r profiad wedi bod yn fuddiol iawn, ac mae’n rhaid canmol staff cangen ɫ y Coleg Cymraeg am eu hymroddiad a’u gweithgarwch ar ran myfyrwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb.
Ychwanegai Sioned, sydd yn dilyn cwrs M.A. mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg:
“Mae’r cwrs wedi bod yn heriol ond hefyd wedi rhoi boddhad mawr, ac fe garwn i ddiolch i staff Adran Gymraeg Prifysgol ɫ am eu diddordeb a’u cefnogaeth.”
Meddai Aled Llion Jones, Pennaeth yr Adran:
“Llongyfarchiadau gwresog i Sioned gan holl staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: dyma gydnabyddiaeth lwyr haeddiannol. Testun hyfrydwch inni hefyd yw bod Sioned yn parhau i ddefnyddio’i sgiliau sylweddol ym Mangor, a hithau bellach yn dilyn MA mewn Cymraeg: diau bod gwobrau eraill o’u blaen!”
Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews, fydd yn cyflwyno’r gwobrau ac yn annerch y digwyddiad:
“Mae’n addas iawn ein bod yn cychwyn blwyddyn o ddathliadau i nodi deng-mlwyddiant y Coleg drwy wobrwyo rhai o’n dysgwyr a’n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a’n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wrth galon llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydym yn ymfalchïo heno yn eu llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Dros ddeunaw mis mae dysgwyr, prentisiaid, myfyrwyr a darlithwyr ar draws Cymru wedi wynebu heriau digynsail wrth geisio parhau â’r dysgu ac addysgu. Mae cyfle gennym heno i ddathlu ac i ddiolch i’r gymuned gyfan am eu hymdrechion arwrol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi parhau er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.
“Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd graenus o’r safon uchaf ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg yn y sefydliadau.
“Yn sgil methu â chwrdd a chynnal darlithoedd a seminarau wyneb yn wyneb am rannau helaeth o’r flwyddyn mae pawb wedi gorfod addasu a darganfod ffyrdd newydd o weithio a chefnogi ei gilydd. Mae’r enwebiadau a dderbyniwyd ar draws yr holl gategorïau yn profi bod gwaith o’r safon uchaf yn ogystal ag ochor gymdeithasol bywyd prifysgol a’r sector ôl-16 wedi medru parhau drwy ddulliau amgen a rhithiol.
“Ar ran y Coleg hoffwn ddymuno llongyfarchiadau enfawr i’r enillwyr i gyd a diolch mawr iddyn nhw am eu gwaith ysbrydoledig yn wyneb amgylchiadau mor heriol.”
Oherwydd yr amgylchiadau mae’r Coleg wedi trefnu seremoni wobrwyo hybrid fydd yn digwydd yn rhannol yn rhithiol ac yn rhannol wyneb yn wyneb gan sicrhau pellter cymdeithasol yng Nghanolfan Yr Egin S4C, Caerfyrddin heno am 6:30yh. Gellir gwylio’r digwyddiad yma ar sianel youtube y Coleg.
Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn academaidd hon i nodi dengmlwyddiant y Coleg.