Ymchwil newydd yn dangos bod angen cefnogaeth hyblyg wedi ei theilwra i bobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref
Mae gwerthusiad pedair blynedd, wedi datgelu鈥檙 angen am wasanaethau hyblyg wedi eu teilwra sy鈥檔 ymatebol i amrywiol anghenion pobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref. 听
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi cyfrannu at werthusiad pedair blynedd sydd wedi datgelu鈥檙 angen am wasanaethau hyblyg wedi eu teilwra sy鈥檔 ymatebol i amrywiol anghenion pobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref. 听
Ariannwyd yr ymchwil gan Women and Girls Initiative y Loteri Fawr, dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Central Lancashire (UCLan) mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol 亚洲色吧, Prifysgol East London a Phrifysgol Manchester Metropolitan.
Cyhoeddwyd y canlyniadau mewn adroddiad heddiw, yn dadansoddi sut y gall gwasanaethau cymorth camdriniaeth yn y cartref yn y Deyrnas Unedig fod yn fwy hygyrch i鈥檙 rhai sydd eu hangen. Gweithiodd Cymorth i Ferched a SafeLives gyda phobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref i ddarparu鈥檙 rhaglen Roadmap arloesol ledled Lloegr dros gyfnod o 5 mlynedd.听
Roedd y gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau ac arolygon am brofiadau 300 o ferched a 70 o blant sydd wedi dioddef trais a chamdriniaeth yn y cartref, mewn pum safle ledled Lloegr.听
Canfu ymchwilwyr fod pobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref yn gwerthfawrogi gwasanaethau sy鈥檔 canolbwyntio arnynt hwy ac yn eu galluogi i ddewis cyflymder y gefnogaeth a鈥檙 math o gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a bod angen cymorth ar lawer gyda magu plant yn ogystal 芒 chefnogaeth penodol iddynt hwy fel unigolion. Pan ddarparwyd cefnogaeth uniongyrchol i blant a oedd wedi byw trwy gamdriniaeth domestig, cafodd effaith gadarnhaol ar eu hwyliau, eu cwsg, eu hiechyd corfforol ac roedd hefyd yn gallu lleihau eu hofn a'u dicter. Daeth yr astudiaeth o hyd i enghreifftiau o blant a dderbyniodd gefnogaeth gan wasanaethau Roadmap a oedd wedyn wedi gallu mynd trwy newidiadau mawr yn eu bywydau yn llwyddiannus.
Gr诺p Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Atal 听yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau 听ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a gynhaliodd y gwerthusiad economaidd o鈥檙 adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad. Defnyddiodd Eira Winrow a'r Athro Rhiannon Edwards yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ddadansoddiad economaidd o鈥檙 adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad i edrych ar effaith economaidd y rhaglen Roadmap o safbwynt amrywiaeth eang o randdeiliaid.听
Fel yr esboniodd yr Athro Edwards:
鈥淒aethom o hyd i werthoedd cymdeithasol cadarnhaol a gr毛wyd gan yr holl raglenni a ddarperir gan yr elusennau hyn. Ychwanegwyd at werth cymdeithasol gwasanaethau ffurfiol trwy gyfranogiad gwirfoddolwyr - llawer ohonynt yn bobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref eu hunain - yn cynnwys rhai a wirfoddolodd fel Ask Me Ambassadors i roi cyngor i ferched sy鈥檔 dioddef camdriniaeth yn y cartref yn eu cymunedau lleol. Bydd y canfyddiadau hyn yn cyfrannu at ddatblygu canllawiau statudol ar ddeddf newydd ar gamdriniaeth yn y cartref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a wnaed yn gyfraith yn gynharach eleni.
鈥淩oedd staff Roadmap hefyd yn darparu hyfforddiant i weithwyr rheng flaen a oedd yn gweld achosion o gamdriniaeth yn y cartref yn eu gwaith. Roedd yr hyfforddiant yn gwella gwybodaeth a hyder gweithwyr proffesiynol wrth ymateb i gamdriniaeth yn y cartref a manteisiodd staff swyddfeydd budd-daliadau, staff tai a gofal cymdeithasol plant ar yr hyfforddiant hwn. Ond roedd y gwasanaethau iechyd yn llai tebygol o ymgymryd 芒鈥檙 hyfforddiant ac yn llai tebygol o weithio ar y cyd 芒 gwasanaethau Roadmap.鈥澨
Meddai鈥檙 Athro Nicky Stanley, o'r Connect Centre for International Research on Interpersonal Violence and Harm ym Mhrifysgol Central Lancashire (UCLan):听
鈥淢ae鈥檙 ymchwil helaeth hon yn dangos cyfraniad hanfodol gwasanaethau arbenigol camdriniaeth yn y cartref at gefnogi pobl sydd wedi byw trwy gamdriniaeth yn y cartref a鈥檜 helpu i ailadeiladu eu bywydau.鈥澨
听
Gellir .