Ymchwil newydd yn dangos bod gan blant dwyieithog sgiliau meddwl mwy effeithlon
Defnyddiodd ymchwilwyr ffyrdd arloesol o archwilio sgiliau meddwl plant dwyieithog Groeg-Saesneg oed ysgol yn y Deyrnas Unedig a chanfod sgiliau meddwl uwch o gymharu â phlant oedd yn siarad un iaith yn unig. Â
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Behavior Research Methods, yn disgrifio datblygiad arloesol ym maes prosesau meddwl dwyieithog. Trwy gyflwyno dull newydd radical, roedd ymchwilwyr yn gallu mesur sgiliau meddwl plant yn fwy cywir a chynhwysfawr nag erioed o'r blaen.Ìý
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod sgiliau meddwl plant dwyieithog ar gyfartaledd yn 6.5% yn fwy effeithlon na sgiliau meddwl plant uniaith.
Meddai Athanasia Papastergiou, darlithydd yn adran Ieithyddiaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a phrif awdur y cyhoeddiad:Â
'Mae'n gyffrous iawn datblygu'r dull newydd hwn o astudio plant dwyieithog. Gobeithio y bydd y canlyniadau cadarnhaol hyn yn helpu i dawelu unrhyw ofnau posib ynglÅ·n â magu plant yn ddwyieithog ac yn tynnu sylw at y manteision o wneud hynny.'Â
Mantais amlwg o allu cyfathrebu mewn mwy nag un iaith
Llwyddodd y tîm ymchwil, mewn cydweithrediad â Dr Vasileios Pappas o Ysgol Fusnes Prifysgol Caint, i dorri tir newydd trwy addasu methodoleg o faes economeg i astudio dwyieithrwydd. Dadansoddodd y project ddata gan blant a addysgwyd trwy gyfrwng Groeg a Saesneg yn ysgolion y Deyrnas Unedig, o gymharu â phlant uniaith.
Meddai Eirini Sanoudaki, Uwch Ddarlithydd Ieithyddiaeth, a arweiniodd y project:
'Mae mantais amlwg o allu cyfathrebu mewn mwy nag un iaith; mae ein canfyddiadau yn dangos y gall dysgu dwy iaith gynnwys mwy fyth o fanteision i ddatblygiad plant. Gofynnwyd i blant, er enghraifft, gofio ac ailadrodd cymaint o rifau â phosib, anwybyddu gwybodaeth amherthnasol a symud yn gyflym rhwng gwahanol dasgau: roedd plant dwyieithog yn gwneud hyn yn  well ar y cyfan na phlant uniaith.Ìý
Mae'r canlyniadau hyn yn bwysig i ni yma yng Nghymru ac yn wir i gymunedau dwyieithog ledled y byd.'
Bydd y tîm yn ehangu ei ymchwil i ieithoedd eraill yn awr, gyda phroject newydd yn astudio sgiliau iaith a meddwl ymhlith plant Saesneg eu hiaith sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ariannwyd yr astudiaeth ar y cyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru a'r Adran Ieithyddiaeth yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
.Ìý