DATGANIAD LLYWODRAETH CYMRU
Mae鈥檙 Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu cyfnod hyfforddi i gyd yng ngogledd Cymru fel rhan o鈥檙 camau i sefydlu ysgol feddygol yno.
Dywedodd Eluned Morgan:听
鈥淩ydw i am roi cyfle i hyd yn oed fwy o fyfyrwyr astudio tra eu bod wedi鈥檜 lleoli yng nghymunedau鈥檙 Gogledd, oherwydd rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal mor agos 芒 phosibl i gartrefi pobl.
鈥淕wyddom fod heriau wrth recriwtio staff yn y Gogledd, a dyna pam rydym am feithrin myfyrwyr meddygol sydd wedi鈥檜 haddysgu yma, a鈥檜 hannog i aros, yn gyntaf drwy Raglen C21 Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac yn y tymor hirach drwy ysgol feddygol Gogledd Cymru.
鈥淢ae Gr诺p Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi adrodd yn 么l ataf i, a byddaf yn sefydlu Bwrdd Rhaglen i roi eu hargymhellion ar waith, a gweithio i sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y Gogledd.鈥
Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, sy鈥檔 cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Brifysgol 亚洲色吧 a Phrifysgol Caerdydd, yn galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer eu gradd meddygaeth i gyd yn y Gogledd, gyda mwy o ffocws ar feddygaeth yn y gymuned ac ystod eang o leoliadau gwaith gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa.
Eleni, bydd nifer y myfyrwyr ar y rhaglen yn ehangu o 20 i 25, ac i 40 o fyfyrwyr erbyn y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol 亚洲色吧:听
鈥淢ae Prifysgol 亚洲色吧 yn croesawu鈥檙 ffaith bod Rhaglen C21 Gogledd Cymru yn ehangu, gan adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd fel cam pwysig i gyflymu鈥檙 broses o sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol sy鈥檔 cael ei harwain gan ymchwil ym Mangor ar gyfer Gogledd Cymru.鈥澨
Caiff rhaglen meddygaeth i raddedigion Prifysgol Abertawe hefyd ei hariannu i gynnig lle i 25 o fyfyrwyr yn ychwanegol yn 2021.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:听
鈥淢ae鈥檔 wych clywed bod llwyddiant partneriaeth feddygol C21 Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ar 么l y gwaith caled y mae鈥檙 timau ym Mangor a Chaerdydd wedi鈥檌 wneud. Mae鈥檙 rhaglen bellach wedi鈥檌 sefydlu, gydag adborth gwych gan fyfyrwyr, a bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer addysg feddygol, mewn partneriaeth, i wireddu uchelgeisiau鈥檙 rhanbarth.鈥
听
听