Mae'r cymrodoriaethau 'Creu Diwylliannau Gofalu' wedi eu hanelu at nyrsys a bydwragedd sy'n angerddol am wella clinigol ac addysg glinigol ac sy'n gobeithio bod yn arweinwyr clinigol ac yn ysgolheigion.
Mae'r gymrodoriaeth yn cynnig cyfle i bob unigolyn ym maes gofal iechyd proffesiynol wneud project ar secondiad, er mwyn gwella iechyd cleifion a'r profiad ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Wrth groesawu'r garfan gyntaf o gymrydorion clinigol, meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, BIPBC, "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y Rhaglen Cymrodoriaeth Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r rhaglen gymrodoriaeth hon yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth, gan roi'r sgiliau iddynt ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella gofal cleifion. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd gofal trwy gwell ymchwil ac ansawdd, ac rydym yn chwilio am nyrsys a bydwragedd hoffai ddatblygu'r sgiliau hyn yn gynnar yn eu gyrfa. '
Ychwanegodd Dr Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, "Bydd y Cymrodoriaethau 'Creu Diwylliannau Gofalu' yn caniatáu i unigolion archwilio cyfleoedd, ennyn newid, gweithio gyda’r tîm ehangach a darganfod eu dull unigryw eu hunain o nyrsio neu fydwreigiaeth. Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn falch iawn o fod yn cefnogi'r rhaglen ac i weithio mewn partneriaeth â BIPBC. Mae’r Gymrodoriaeth newydd yn adlewyrchu awch Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i ddarparu profiadau dysgu trawsnewidiol sy’n hyblyg ac yn hygyrch."
Bydd y rhaglen ddatblygu bwrpasol hon yn canolbwyntio ar wella ac arloesi yn yr amgylchedd dysgu clinigol. Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â phrosiect gwella ansawdd sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion, lleihau amrywiad direswm yn y lleoliad clinigol ac sydd wedi'i anelu at brofiadau dysgu trawsnewidiol.
Yn ogystal â secondiad i gyfranogwyr dros gyfnod o 12 mis i ymgymryd â'u prosiect, caiff y Cymrydorion y cyfle i ymuno â chynllun datblygu arweinyddiaeth.
Am ragor ow ybodaeth am y Cymrodoriaethau Creu Diwylliannau Gofalu cysylltwch â iechyd@bangor.ac.uk