Ysbyty Enfys yn troi’n Camolfan Brailsford unwaith eto
Mae Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol ɫ wedi ei dychwelyd i ddwylo'r Brifysgol, wedi i’r adeilad cael ei ddefnyddio fel Ysbyty Enfys ers Ebrill 2020.
Gan dalu teyrnged i'r holl ffyrdd y mae staff a myfyrwyr wedi ymateb i heriau'r pandemig, meddai’r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol ɫ: “Dyletswydd a braint oedd i
Brifysgol ɫ gyfrannu at warchod iechyd a lles y gymuned yn ystod pandemig Covid. Mae’n debyg mai cynnig ein Canolfan Chwaraeon oedd un o’n cyfraniadau ffisegol mwyaf amlwg, ac roedd y cydweithio rhwng cymaint o asiantaethau gwahanol i drawsnewid yr adeilad mewn cyn lleied o amser yn dyst i’r hyn y gellir ei gyflawni.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yn bresennol ar gyfer ailagoriad Canolfan Brailsford fel canolfan
chwaraeon, “Diolch i ymdrechion ein cymunedau, nid oedd angen defnyddio Ysbyty Enfys fel ysbyty. O fis Rhagfyr 2020 defnyddiwyd yr adeilad i gefnogi’r ymgyrch brys i rannu
rhaglen brechu COVID 19 gan ddosbarthu dros 90,000 brechlyn o’r safle. Mae’n briodol ein bod wedi gweld gwaith tîm ar ei orau yng Nghanolfan Brailsford, rydym yn y Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar dros ben.”
Bu nifer o sefydliadau yn rhan o'r broses o newid defnydd, gan gynnwys Prifysgol ɫ, Bwrdd Iechyd Ysbyty Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Royal Irish Regiment, Coleg Menai ac Evershed Sutherlands LLP.
Agorwyd Canolfan Brailsford unwaith eto i’r cyhoedd Dydd Sadwrn 4 Medi 2021 gyda Diwrnod Agored yn rhad ac am ddim. Yn ystod y cyfnod pan nad oedd posib defnyddio
Canolfan Brailsford fel canolfan chwaraeon, darparwyd campfa dros dro ar safle Ffriddoedd o fewn cyfyngiadau rheolau COVID.