Gwnaed y darganfyddiad fel rhan o broject ar y cyd rhwng Archeolegwyr Morwrol ym Mhrifysgol Bournemouth a gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧, sydd wedi bod yn cyfuno archifau morol 芒 data sonar amlbelydr cydraniad uchel i geisio adnabod nifer o'r safleoedd llongddrylliadau anhysbys sydd wedi'u lleoli oddi ar ein harfordir.聽
Cafodd HMS Mercury, a adeiladwyd yn wreiddiol fel fferi ar yr afon Clud, ei meddu鈥檔 orfodol gan y Morlys ym 1939 i wasanaethu fel llong glirio ffrwydrynnau. Suddodd ym 1940 ar 么l cael ei difrodi gan ffrwydryn yr oedd yn ceisio ei glirio ac adroddwyd ei fod ar goll oddi ar De Iwerddon.
HMS Mercury
Project ymchwil hynod arloesol
Fel rhan o'r rhaglen ymchwil barhaus, mae Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth wedi bod yn llunio rhestrau manwl o'r holl longau a gollwyd ym M么r Iwerddon:
鈥淭ybiwyd mai safle鈥檙 llongddrylliad oedd y fan lle orweddai llong danfor. Ar 么l i'r data sonar gael ei brosesu, roedd y llongddrylliad yn debyg i long olwyn badl gyda'i phadlau mewn bocsys yn uwch-strwythur y llong, yn hytrach na'r proffil tiwb nodweddiadol sy'n gysylltiedig 芒 llongddrylliad llongau tanfor. Yn ein cronfa ddata o longau a gollwyd, roedd dim ond un dewis posibl gydag olwynion padl mewn bocsys; sef y llong glirio ffrwydrynnau, HMS Mercury鈥澛
Adeiladwyd y llong, a enwyd yn wreiddiol yn Mercury II, ym 1934 ar gyfer y London Midland Scottish Railway ac roedd yn llong bleser yn cario teithwyr gan weithio鈥檔 bennaf ar y llwybr Greenock, Gourock a Bae Wemyss. Roedd y llong yn rhodlong 223 troedfedd o hyd ac yn hawdd ei hadnabod trwy ei dyluniad arloesol gyda鈥檙 padlau mewn bocsys a starn criwser. Ynghyd 芒鈥檌 chwaer long Caledonia II, rhoddodd wasanaeth da hyd at 1939, pan gafodd ei meddu鈥檔 orfodol i wasanaethu yn y rhyfel fel llong glirio ffrwydrynnau.
Mae'r rhestr swyddogol o longau morwrol a gollwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn nodi bod HMS Mercury wedi 鈥渟uddo ar 么l cael ei difrodi gan ffrwydryn i鈥檙 de o Iwerddon鈥. Mewn gwirionedd, dangosodd yr ymchwil yn yr Archifau Cenedlaethol fod y digwyddiad wedi digwydd i ddechrau oddi ar Ynysoedd Saltee, De Iwerddon pan roedd HMS Mercury yn clirio hen faes ffrwydron Prydeinig am 4.30 y prynhawn ar Ddydd Nadolig 1940. I ddechrau ac yn ddiarwybod i鈥檙 Mercury, daliwyd ffrwydryn yn ei g锚r clirio ac wrth geisio cael gwared ohono, tynnwyd y ffrwydryn yn rhy agos at y llong a ffrwydrodd o dan y starn. Roedd yn dal uwchlaw鈥檙 d诺r a gobeithiwyd y gellid achub y llong, felly tynnwyd HMS Mercury tuag at Aberdaugleddau ond yn anffodus ar 么l tua dwy awr, daeth y cebl yn rhydd dan bwysau鈥檙 llong a oedd yn llenwi鈥檔 araf gyda d诺r. Er gwaethaf ymdrechion caled y criw i'w hachub, suddodd y llong yn fertigol, y starn yn gyntaf tua 8.30 y nos, ond llwyddwyd i achub y criw cyfan.
Cafodd yr Is-gapten dros dro, Bertrand Palmer a oedd yn rheoli HMS Mercury, ei geryddu yn ddiweddarach ar 么l llys marsial a ganfu ei fod wedi ymddwyn yn groes i reolau sefydlog wrth stopio鈥檙 llong a pheidio 芒 symud oddi yno ar unwaith ar 么l gweld y ffrwydryn.聽
Bu chwaer long y Mercury, Caledonia II, yn gwasanaethu trwy gydol yr Ail Ryfel Byd fel HMS Goatfell, ac wedi hynny dychwelodd i鈥檞 gwaith arferol. Pan werthwyd Caledonia II ym 1971, cafodd ei phrynu gan y Bass Charrington Group a鈥檌 defnyddio fel tafarn boblogaidd yn arnofio ar yr afon Tafwys cyn mynd ar d芒n ym 1980.
Mae HMS Mercury yn ddim ond un o dros 300 o longddrylliadau ym M么r Iwerddon sydd wedi eu harolygu gan long ymchwil Prifysgol 亚洲色吧, y Prince Madog, trwy ddefnyddio eu system sonar amlbelydr o鈥檙 radd flaenaf. Trwy鈥檙 cydweithio unigryw hyn gyda Phrifysgol Bournemouth, mae adnabod pob safle a鈥檜 cysylltu 芒 digwyddiad hanesyddol penodol yn parhau i ddatblygu a chaiff y wybodaeth ei chyhoeddi ar 么l i鈥檙 gwaith gael ei gwblhau fel cymrodoriaeth Dr McCartney a ariannir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme 聽鈥淓choes from the Deep: Modern Reflections on our Maritime Past鈥.
Dr Innes McCartney:
''Mae'r project ymchwil hynod arloesol hwn wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau newydd yn dyddio o'r ddau ryfel byd, ac mae HMS Mercury yn ddim ond un enghraifft ohonynt. Mae'r cydweithio newydd hyn 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 yn dangos y manteision sylweddol y gellir eu cael trwy gyfuno arolwg gwyddonol ag archifau morwrol ac mae'n dangos sut y gellir defnyddio hyn fel dull ymchwil pwerus ac effeithiol a all wella鈥檔 sylweddol ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morwrol hanesyddol trwy ein galluogi i adnabod llongddrylliadau anhysbys, mireinio priodoleddau presennol a chadarnhau enwau llongau.鈥
Dr Michael Roberts o Brifysgol 亚洲色吧 a arweiniodd yr arolygon amlbelydr:
鈥淢ae gallu bod ar ein llong ymchwil Prince Madog a defnyddio un o'r systemau sonar amlbelydr mwyaf datblygedig sydd ar gael wedi ein galluogi i arolygu bron pob safle llongddrylliad yng nghanol M么r Iwerddon yn effeithlon ac yn gywir. Mae cael data sonar cydraniad uchel o'r holl safleoedd hyn wedi bod yn hanfodol i'r broses ymchwil a gobeithiwn y bydd y gwaith a'r cydweithredu hyn 芒 Bournemouth yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod yr asedau gwerthfawr hyn ar gael i ni yma ym Mangor. Mae'r llongau hyn sydd wedi suddo yn cynrychioli aberthau ac ymdrechion dinasyddion a oedd yn weithwyr 'allweddol' a 'hanfodol' yn eu cyfnod ac mae'n bwysig bod man gorffwys olaf y llongau yr oeddent yn gysylltiedig 芒 hwy yn cael eu nodi cyn ei bod hi'n rhy hwyr. 聽Rydym yn gobeithio sicrhau cyllid ychwanegol i ehangu ar y gwaith hwn ac archwilio llongddrylliadau mewn rhanbarthau arfordirol eraill yn y DU cyn i'w gweddillion fynd yn amhosib i鈥檞 hadnabod trwy ddiraddiad gan brosesau naturiol y m么r.鈥