Mae Parc Gwyddoniaeth Menai Ynys M么n (M-SParc) wedi cynorthwyo dros 70% o fyfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 sy'n gweithio yno fel interniaid i fusnesau ar y safle sicrhau cyflogaeth llawn amser yn y ganolfan a dechrau ar yrfa, ac mae'r cyflog cyfartalog ym musnesau M-SParc 拢5,000 yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae'r parc gwyddoniaeth, y cyntaf o鈥檌 fath yng Nghymru, yn cynnig lle i fusnesau o bob lliw a llun sy鈥檔 ymwneud 芒 thechnoleg a gwyddoniaeth ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi eu gallu mewn diwydiannau a mentrau newydd.
Mae'r swyddi yn y parc yn rhan o gynllun Interniaeth Prifysgolion Santander, sy'n cynorthwyo myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth llawn amser ar 么l graddio, a hefyd yn cynnig cyflenwad o raddedigion medrus i gefnogi twf busnesau yn y rhanbarth.
Mae Dafydd Weightman yn un myfyriwr felly sydd wedi elwa o鈥檙 cynllun, ac yn dilyn ei interniaeth gyda M-SParc mae bellach wedi dechrau ei fusnes ffotograffiaeth, fideograffeg a dylunio cynnwys digidol ei hun, a hefyd yn gweithio i鈥檙 busnes Aerial Worx ar safle M-SParc sy鈥檔 arbenigo mewn ffilmio dr么n.
Mae Dafydd yn wreiddiol o Ynys M么n a chafodd anogaeth gan Ganolfan Fenter M-SParc i sefydlu ei fusnes ei hun a dilyn trywydd ei ddiddordebau.
Dywedodd Dafydd: 鈥淎studiais at radd BSc mewn Cyfrifiadureg ym Manor a roddodd sylfaen wybodaeth wych imi ac yn ystod fy nghyfnod yn astudio datblygais ddiddordeb arbennig yn agweddau creadigol ffotograffiaeth a fideograffeg, a dyna oedd y llwybr yr oeddwn yn awyddus ei ddilyn ar 么l graddio o'r brifysgol.
鈥淩oedd gen i syniad am M-SParc am fy mod yn gyrru heibio鈥檙 safle yn rheolaidd, ond ar 么l cwblhau interniaeth yno trwy Brifysgol 亚洲色吧 troais atynt am gymorth i sefydlu fy musnes fy hun.
鈥淕wnaethant gynnig cynghorydd gwych imi a rhoi cyngor imi ar sut i ddechrau busnes, gan fy nhywys trwy'r prosesau i gael cefnogaeth, gan gynnwys gweminarau am ddim ar ddechrau busnes a oedd yn help mawr imi wrth ddod i ddeall yr holl gyfarpar yr oeddwn ei angen i ddechrau ar y gwaith.
鈥淒eilliodd fy swydd bresennol gydag Aerial Worx o gyfarfod a gefais gyda nhw tra鈥檙 oeddwn ar fy interniaeth ym M-SParc i drafod eu hanghenion cyfryngau cymdeithasol a hefyd i gael gwers ar weithio un o鈥檜 camer芒u dr么n. Profodd y cyswllt cychwynnol hwnnw'n amhrisiadwy yn nes ymlaen pan oeddynt yn chwilio am weithiwr newydd.
鈥淢ae M-SParc yn gweithio鈥檔 galed i wneud cysylltiadau cydweithredol lle bynnag y bo modd, a chan eu bod yn gyfarwydd 芒鈥檓 set sgiliau, diolch i鈥檙 interniaeth a鈥檙 cyflwyniad a鈥檙 cyswllt blaenorol hwnnw, rwyf bellach mewn swydd rwy鈥檔 ei mwynhau ac yn datblygu fy sgiliau ymhellach, gan ganiat谩u imi ddatblygu fy musnes fy hun ar gyflymder rwy'n gyffyrddus ag ef."
Mae Kimberley Williams hefyd wedi ei magu ar Ynys M么n ac yn fyfyriwr arall sydd wedi elwa o'r cyfleuster, ac fe drodd interniaeth ar safle M-SParc ar ddechrau 2021 gyda'r tenant BIC Innovation yn swydd llawn amser iddi fel cynorthwyydd marchnata.
Roedd yr interniaeth yn BIC Innovation yn un o nifer i Kimberley eu cwblhau yn ystod cyfnod o dros chwe mis yn chwilio am swydd llawn amser ar 么l gorffen ei BSc mewn dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn ystod y pandemig coronafirws ym mis Mai 2020, ond roedd y profiad gwaith a鈥檙 wybodaeth a fagodd yn gymorth iddi gael cynnig swydd barhaol gyda BIC Innovation.
Dywedodd Kimberley: 鈥淩wyf wedi mwynhau'r gwaith yn fawr hyd yma. Mae'r swydd yn un lle mae gofyn i chi chwarae sawl r么l ar yr un pryd, ond rydw i wedi cael gwahoddiad i eistedd i mewn ar alwadau a darparu gwybodaeth sy'n deillio o鈥檓 hastudiaethau, rhywbeth na fyddai鈥檔 digwydd mae鈥檔 si诺r mewn cwmn茂au 芒 channoedd o weithwyr cyflogedig.
鈥淯n o鈥檙 rhesymau pam ei bod yn wych gweithio ym M-SParc yw ei fod mor gydweithredol; mae鈥檙 holl fusnesau modern a鈥檙 setiau sgiliau modern yma mewn un lle ac mae'n un crochan cymysgu mawr o dalent. Nid oes angen i ni byth fynd ymhell i ofyn am gyngor am broblemau a heriau sy鈥檔 codi.
鈥淢ae cael safle fel hwn yn lleol yn wych i鈥檙 rhanbarth hefyd, gan ei fod yn golygu nad oes rhaid i fyfyrwyr sy鈥檔 astudio yma symud i ffwrdd i ddechrau ar eu gyrfa a gall pobl dalentog barhau i ddatblygu eu sgiliau yn agos at eu cartref, neu gall myfyrwyr benderfynu ymgartrefu鈥檔 barhaol yng Ngogledd Cymru ar 么l astudio ym Mangor. Mae hynny鈥檔 rhwym o helpu鈥檙 rhanbarth i ffynnu.鈥
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol 亚洲色吧 sy鈥檔 arwain ar gyflogadwyedd, ymgysylltu 芒 chwmn茂au a phartneriaethau: 鈥淢ae'n gyffrous gweld myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn llwyddo ac yn dod o hyd i swyddi proffesiynol mewn diwydiannau a busnesau newydd ar garreg ein drws yma yng Ngogledd Cymru.
鈥淢ae M-SParc yn cynnig carreg gamu gref i fyfyrwyr gymryd y llam cyntaf at yrfa a chanolbwyntio ar yr hyn maent yn ei fwynhau ac mae'n galonogol gweld nifer o'r myfyrwyr hynny鈥檔 dewis aros ac adeiladu ar y sylfeini sydd wedi鈥檜 gosod o fewn ffiniau M-SParc ei hun.鈥
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart: 鈥淢ae tua 70% o fyfyrwyr sy'n cael interniaethau gyda busnesau yn safle M-SParc yn mynd ymlaen i sicrhau swydd gyda'r cwmn茂au hynny, gyda thros 10 myfyriwr mewn swyddi o鈥檙 fath ar hyn o bryd, felly mae cynnig lleoliad i fyfyrwyr a busnesau lle gallant fanteisio ar eu hastudiaethau a chymryd y camau cyntaf pwysig hynny yn eu gyrfaoedd yn hanfodol.
鈥淢ae M-SParc yma i greu amrywiaeth yn economi鈥檙 rhanbarth, ac i helpu busnesau dyfu. Mae'n galonogol bod cymaint o interniaethau wedi arwain at yrfaoedd yma yn y Parc, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr na fyddent yn eu cael fel arall, a chefnogi cwmn茂au trwy gynnig mynediad at weithlu cymwys sydd ar garreg eu drws.
鈥淒im ond dwy enghraifft yw straeon Dafydd a Kimberley o鈥檙 synergedd sy鈥檔 blodeuo rhwng M-SParc a Phrifysgol 亚洲色吧 ac edrychwn ymlaen at weld y busnesau y maent ynghlwm 芒 nhw鈥檔 datblygu ochr yn ochr 芒 ninnau yma ym M-SParc.鈥