Mae cael 'niwl yr ymennydd' neu nam gwybyddol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel un o brif elfennau COVID hir. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod rhwng chwarter a dwy ran o dair yr holl bobl sy'n dioddef â COVID hir yn dioddef rhyw fath o 'niwl yr ymennydd'. Mae'n effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a gall achosi amrywiaeth o symptomau. Gall penderfyniadau sy'n ymddangos mor syml â dewis rhwng te a choffi fod yn anodd i rai unigolion, tra gall eraill gael anawsterau gyda chof tymor byr neu dymor hir. Mae colli gallu o’r fath yn arwain at ganlyniadau sylweddol i bobl y mae hyn effeithio arnynt, ynghyd â’u teuluoedd a'r economi ehangach, o ystyried bod pobl yn ei chael yn anodd dychwelyd i'r gwaith.
Mae'r ymchwil, dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain, yn un o 15 astudiaeth fawr sydd newydd eu cyhoeddi, a fydd yn tynnu ar brofiadau cleifion a gweithwyr gofal iechyd er mwyn ymchwilio i driniaethau, darpariaeth gwasanaeth a diagnosteg ar gyfer COVID hir.  Â
Mae'r astudiaeth yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'r . Mae dau academydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cyfrannu eu harbenigedd i'r rhaglen.
Bydd Dr Zoë Hoare, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd a hi yw Prif Ystadegydd NWORTH yn arwain gwaith tîm NWORTH, a fydd yn ymdrin â’r gwaith cyfrifo, cynghori ar sut y dylid dylunio'r treial clinigol, a dadansoddi'r holl ddata.Â
Esboniodd Dr Hoare: “Mae gennym ni yn NWORTH arbenigedd sylweddol mewn cynnal treialon clinigol ac, yn benodol, llunio a rheoli treialon i asesu namau gwybyddol cymhleth megis dementia. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi’r gwaith o werthuso'r math hwn o ymyrraeth o fewn y boblogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr eraill a gyda phobl sy'n profi COVID hir, i ddysgu mwy am yr hyn sy'n gyflwr meddygol newydd cymhleth a darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd llwybrau posibl o roi triniaeth."
Bydd y project hefyd yn datblygu llawlyfr i glinigwyr a fydd yn disgrifio dull cam wrth gam o drin y grŵp hwn gan eu helpu i nodi dulliau neu strategaethau y gellir eu rhoi ar waith i reoli'r symptomau y mae pobl yn eu profi fel rhan o 'niwl yr ymennydd'.
Mae angen asesu unrhyw fesur neu driniaeth newydd a gynigir gan y gwasanaeth iechyd o ran effeithiolrwydd a gwerth.
Mae Dr Nathan Bray, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Ataliol ac Arweinydd Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi) ac ef fydd yn rhedeg y mesurau cymhleth i asesu cost-effeithiolrwydd y pecynnau cymorth adsefydlu a fydd yn cael eu cynhyrchu.
Dywedodd Dr Bray: “Mae anferthedd y pandemig yn golygu bod mynd i'r afael â COVID hir yn un o'r prif flaenoriaethau sy'n wynebu gofal iechyd ledled y byd. Y nod yw helpu pobl i adennill gwell ansawdd bywyd fel y gallant ddychwelyd i wneud y pethau yr oeddent yn arfer eu gwneud. Nod yr astudiaeth hon yw diwallu'r angen hwn a darparu cynllun triniaeth ar gyfer pobl yr effeithir arnynt a fydd yn eu helpu i ddychwelyd i fywyd normal ac i allu gweithio."
Dywedodd yr Athro Nick Lemoine, Cadeirydd pwyllgor cyllido COVID hir NIHR a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Ymchwil Glinigol NIHR (CRN): “Bydd y pecyn ymchwil hwn yn rhoi gobaith i bobl â phroblemau iechyd tymor hir ar ôl COVID-19, ac yn cyflymu’r gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd o wneud diagnosis a thrin COVID hir, yn ogystal â sut i ffurfweddu gwasanaethau gofal iechyd i ddarparu'r gofal gorau posibl. O gynnwys ein cylch cyllido blaenorol, mae NIHR wedi buddsoddi miliynau mewn ymchwil sy'n cwmpasu'r holl amrediad o achosion, mecanweithiau, diagnosis, triniaeth cost-effeithiol ac adsefydlu yn sgil COVID hir. "