Addysg Athrawon CaBan ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn Ennill Achrediad 5 Mlynedd Cenedlaethol Arbennig Iawn
Mae rhaglenni addysg athrawon israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi derbyn achrediad am y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r cymwysterau athrawon israddedig ac ôl-raddedig, a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Addysg Athrawon CaBan ÑÇÖÞÉ«°É yn yr Ysgol y Gwyddorau Addysg wedi derbyn achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg, y corff sy'n gyfrifol am achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru. Mae partneriaid CaBan yn cynnwys rhwydwaith o ysgolion partneriaeth ledled gogledd Cymru, GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Gogledd Cymru) a Sefydliad Ymchwil Addysg a Phlentyndod CIEREI.Â
Mae'r rhaglenni newydd hyn yn cynnwys y cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig presennol a llwybr traws-gyfnod newydd cyffrous i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cryfhau enw da CaBan ymhellach fel arweinydd cyflwyno addysg athrawon cyfrwng Cymraeg.Â
Dywedodd Julia Buckley, Pennaeth Ysgol Glan Gele, Abergele: “Fel ysgol arweiniol CaBan, rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad achredu. Rydym yn falch o fod yn rhan o'r bartneriaeth hon. Mae ein rhaglenni addysg athrawon diwygiedig yn llawer mwy cadarn ac mae'r myfyrwyr yn elwa o'r profiadau ymarferol cyfoethog y maent yn eu cael wrth weithio gyda’n disgyblion."Â
Dywedodd Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol CaBan ÑÇÖÞÉ«°É, "Rwy'n hynod falch o'n holl staff ac ysgolion partneriaeth sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod cyfnod digynsail yn hanes addysg yng Nghymru i gyflawni'r achrediad hwn. Bydd y gwydnwch a'r arloesedd a ddangoswyd gan yr holl bartneriaid ac Athrawon Cyswllt i fynd drwy'r pan demig yn llwyddiannus yn ein rhoi ni i gyd mewn sefyllfa dda i wynebu unrhyw heriau sy'n dod i'n ffordd yn y dyfodol. Mae'r achrediad mawreddog hwn yn cydnabod y ffaith honno."Â
Dywedodd Yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Addysg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É: "Rydym yn falch iawn o dderbyn yr achrediad mawreddog yma sy'n cydnabod ansawdd ein rhaglenni addysg athrawon ym Mangor, a phwysigrwydd CaBan ÑÇÖÞÉ«°É wrth addysgu athrawon dwyieithog y dyfodol, i'n rhanbarth, i'n gwlad ac i'n hieithoedd. Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb, ac mae partneriaeth CaBan wedi dangos y cryfder mewn gwir gydweithredu. Rydym yn hynod falch o bawb a fu’n ymwneud â hyn."Â