Golygwyd y gyfrol gan yr eigionwyr Dr Yueng Dern Lenn a Dr Mattias Green, sydd 芒 chyfranwyr amlwg o bob cwr o'r byd ac sy'n ymdrin 芒 50 pwnc am foroedd y byd, eu tywydd a'u hinsawdd a'r heriau sy'n wynebu'r cymunedau sy'n byw ar eu glannau.
Mae'r pynciau wedi eu rhannu i mewn i benodau gan ddechrau gyda Hanfodion Cefnforoedd, sy'n esbonio nodweddion syml cefnforoedd a sut mae ffenomena enwog cefnforoedd yn cael eu creu. Mae Daearyddiaeth Ffisegol y Cefnforoedd yn mynd 芒 darllenwyr ar daith o gwmpas y gwahanol gyrff o dd诺r sy'n ffurfio'r cefnfor bydeang, o foroedd silff cyfandirol i'r cefnfor dwfn a'r pegynau. Mae Cefnfor, Tywydd a Hinsawdd yn trafod ymateb y cefnfor i newid hinsawdd a sut mae'r cefnforoedd yn penderfynu ar y tywydd, heddiw ac yn yr hir-dymor. Mae Cefnforoedd Byw yn cyflwyno'r cynefinoedd a'r organebau sy'n byw yn ein moroedd, o'r meicrobau lleiaf i'r mamaliaid mwyaf yn y byd. Mae Fforio'r M么r, Arsylwadau a Rhagfynegiadau yn manylu ar sut yr ydym wedi fforio yn y gorffennol a'r presennol a sut y gall y mesuriadau yma helpu ni i fesur cefnforoedd a hinsawdd y dyfodol yn well gan ddefnyddio technegau newydd sbon. Mae effaith dynoliaeth ar gefnforoedd, o blastigau i olau artiffisial, yn cael ei drafod yn Llygredd y M么r. Ac yn olaf, mae Esblygiad y Ddaear a Cefnforoedd tu hwnt i'r ddaear yn rhoi persbectif llawer hirach o ran daeareg y m么r a bywyd posib ar blanedau eraill.
Daeth Dr Lenn a Dr Green 芒 nifer o鈥檜 cydweithwyr ac arbenigwyr academaidd o bob cwr o'r byd at ei gilydd er mwyn cyfrannu at 鈥30 Second Oceans鈥.
Roedd y gyfrol hefyd yn gyfle i wella cynrychiolaeth ym maes gwyddorau鈥檙 eigion trwy gynnwys llawer o ferched sy'n wyddonwyr ac yn gydweithwyr ar bob lefel yn y byd academaidd, yn wyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa ac yn athrawon enwog.
Gyda鈥檔 gilydd mae ein hawduron yn hanu o 22 sefydliad ac yn cynrychioli llawer mwy o wledydd.聽 Mae'r m么r yn amgylchynu鈥檙 byd ac yn cael effaith arnom ni i gyd.
Mae'r cefnfor yn system sy'n allweddol o ran siapio'r blaned hon a'r bywyd arni. Y gobaith yw y bydd y gyfrol hon yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o pham mae angen i ni reoli ein cefnforoedd yn well, a'r r么l bwysig y gall hyn chwarae o ran lleddfu effaith newid hinsawdd.
Cyhoeddir 30 Second Oceans: 50 key ideas about the sea's importance to life on earth, wedi ei olygu gan Yueng-Djern Lenn a Mattias Green, gan Ivy Press, ac mae'r fersiwn clawr caled yn 拢14.99. Am ragor o wybodaeth am Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol 亚洲色吧 cliciwch yma