Bydd yr Athro Bruce Vanstone yn ymuno ag Ysgol Busnes ɫ yr wythnos hon o Brifysgol Bond, Awstralia, fel pennaeth newydd yr ysgol.
&Բ;⳾ܲԴ&Բ;â'&Բ;&Բ;,&Բ;ڴǻ&Բ;ܳ&Բ;ڲ&Բ;ٳ&Բ;ɲ&Բ;徱ɲ徱Գ,&Բ;&Բ;ɱٳ&Բ;ɲ&Բ;Ծڱ&Բ;&Բ;ɳï&Բ;ԲɱDZ,&Բ;&Բ;ɲٰ&Բ;'&Բ;ٱԲ&Բ;Ա徱.&Բ;Ҳ岹ɴǻ&Բ;徱ɲ徱Գ&Բ;&Բ;徱&Բ;ڲ&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;,&Բ;&Բ;ԲԾ&Բ;DZٳܰٳ&Բ;ɲ&Բ;&Բ;ڰھDZ&Բ;&Բ;2006.&Բ;
Ers hynny, mae Bruce wedi ennill nifer o wobrau ymchwil a dysgu o bwys, tra’n parhau i ddysgu, gwneud ymchwil a gweinyddu ymchwil mewn swyddi academaidd. Mae gwaith Bruce yn canolbwyntio ar ddefnyddio technegau modelu rhagfynegol a yrrir gan ddata i ddatrys problemau busnes anodd. Mae wedi cymhwyso ei waith mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, logisteg, cyllid a marchnata. Mae ganddo ddiddordeb arbennig hefyd mewn dod o hyd i well ffyrdd o gymhwyso technegau dysgu peirianyddol a gwyddoniaeth ddata i fuddsoddi a masnachu.
Mae Bruce yn eiriolwr cryf dros wneud penderfyniadau ar sail data, partneriaethau cydweithredol, a manteision gweithleoedd wedi eu grymuso.

ɲ‵&Բ;⳦&Բ;⳾&Բ;&Բ;ڲɰ&Բ;&Բ;⳾ܲԴ&Բ;â&Բ;ڲDZ&Բ;&Բ;&Բ;Է&Բ;ǰ&Բ;ǰDZ&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;⳾ɾ
“Rwy’n edrych ymlaen at arwain Ysgol Busnes ɫ a gweithio mewn amgylchedd cydweithredol gyda phobl wych ar gampws hardd.
"Cefais fy nenu gyntaf i Brifysgol ɫ oherwydd ei hanes ardderchog o ddysgu ac ymchwil, ac ymrwymiad cryf i wella profiad myfyrwyr.
"Er bod Ysgol Busnes ɫ eisoes yn arweinydd ym maes addysg busnes, mae cyfleoedd newydd ar gael i dyfu yn y dyfodol bob amser, megis meysydd cynaliadwyedd a dadansoddeg data, sy'n tyfu'n gyflym. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i hybu’r Ysgol Busnes a rhoi’r cyfleoedd newydd hyn ar waith.”
Ychwanegodd yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes:
“Rwy’n falch iawn o groesawu Bruce i’r Coleg ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i adeiladu ar enw da byd-eang yr Ysgol Fusnes ac ehangu ein darpariaeth mewn addysgu ac ymchwil i feysydd hanfodol fel cynaliadwyedd a dadansoddeg data. Mae gan Ysgol Busnes ɫ gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac mae Bruce yn dod â'r profiad, y hanes a'r brwdfrydedd i ddwyn y rhain i rym.”