Twmpathau cyflymder yn achub mwnc茂od colobws coch prin Sansibar rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Mae ymchwil newydd yn dangos faint o brimatiaid prin a brodorol a laddwyd mewn gwrthdrawiad 芒 cherbydau a'r manteision o osod twmpathau cyflymder ger coedwigoedd gwarchodedig
Mae cael eu lladd gan gerbydau ar y ffyrdd yn un o'r nifer o fygythiadau sy'n wynebu primatiaid sy'n byw mewn cynefinoedd cynyddol ddarniog. Nid yn aml y gall astudiaethau o brimatiaid sy鈥檔 cael eu lladd ar y ffyrdd amcangyfrif yr union effaith a gaiff hyn ar boblogaeth.
Mewn , bu primatolegwyr o Brifysgol 亚洲色吧, mewn cydweithrediad 芒 rheolwyr y Parc Cenedlaethol yn Sansibar a鈥檙 Gymdeithas Cadwraeth Bywyd Gwyllt, yn asesu鈥檙 bygythiad a berir gan ffyrdd i un o鈥檙 primatiaid prinnaf yn Affrica - colobws coch Sansibar, Piliocolobus kirkii.
Trwy ddadansoddi pedair blynedd o adroddiadau am nifer y mwnciod a laddwyd ar y ffyrdd, a gasglwyd ym Mharc Cenedlaethol Bae Jozani-Chwaka, Sansibar, dangosodd yr astudiaeth newydd fod un colobws yn marw ar y ffordd bob tua chwe wythnos. Mae hyn yn creu amcangyfrif o farwolaethau blynyddol o tua 3% o'r mwnc茂od sy'n byw mewn saith gr诺p y gwyddom eu bod yn croesi'r ffordd hon neu bron i 2% o'r mwnc茂od sy'n byw yn y 18 gr诺p sy'n byw yn ddigon agos at y ffordd fel eu bod yn ei chroesi o bryd i'w gilydd.
Roedd Dr Alexander Georgiev, primatolegydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a Chyfarwyddwr 听
Mwnc茂od colobws coch prin Sansibar
Cars are not selective in the animals they kill
Meddai:
'Er nad yw 3% o farwolaethau bob blwyddyn yn ymddangos yn uchel iawn, mae'r gyfradd farwolaeth hon o fewn yr ystod a brofir gan brimatiaid yn gyffredinol gan ysglyfaethwyr naturiol. Ond yn wahanol i ysglyfaethwyr naturiol, nid yw ceir yn dethol a dewis yr anifeiliaid maent yn eu lladd. Mae hyn yn golygu, er y gall ysglyfaethwyr naturiol dargedu mwnciod ifanc iawn a rhai hen yn amlach, mae ceir yr un mor debygol o ladd oedolion ifanc o fewn oedran atgenhedlu, a fyddai'n cyfrannu fwyaf at dwf y boblogaeth. A gallai hyn fod yn broblem.'
Trwy gymharu鈥檙 cofnodion am y nifer a laddwyd ar y ffordd rhwng 2016 - 2019 gydag amcangyfrifon o farwolaethau colobws ar y ffordd yn y 1990au, dangosodd yr astudiaeth hon ostyngiad mawr yn nifer y colobws a laddwyd ar 么l gosod pedwar twmpath cyflymder ar hyd y darn o'r ffordd lle'r oedd y colobws yn croesi amlaf.
Bu Harry Olgun, sydd bellach yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, yn arwain yr astudiaeth hon fel rhan o'i ymchwil Meistr ar ecoleg ffyrdd colobws coch Sansibar:
Meddai Harry:
'Ar 么l i'r ffordd yn Jozani gael ei harwynebu a chyn i'r twmpathau cyflymder gael eu gosod, adroddwyd bod un colobws yn cael ei ladd bob dwy i dair wythnos, gan arwain at tua 12 - 17% o farwolaethau bob blwyddyn yn 么l un amcangyfrif. Mae'r data diweddar yn dangos bod twmpathau cyflymder wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y colobws. Byddai ychwanegu rhagor o dwmpathau cyflymder yn helpu i leihau'r risg ymhellach.'
Dywedodd Dr Tim Davenport, Cyfarwyddwr Cadwraeth Rhywogaethau a Gwyddoniaeth (Affrica) yn WCS a arweiniodd y cyfrifiad cyntaf ledled y wlad o golobws coch Sansibar ychydig flynyddoedd yn 么l ac sy鈥檔 gyd-awdur yr astudiaeth hon:
鈥淲rth i dwristiaeth dyfu yn Sansibar a鈥檙 cynefin yn parhau i grebachu, mae defnyddio gwyddoniaeth i feintioli a datrys problemau cadwraeth yn bwysicach nag erioed. Mae deall effaith cerbydau ar fywyd gwyllt mewn parc, a gweithredu atebion ymarferol yn rhywbeth y dylem ni fel cadwraethwyr fod yn ei wneud.鈥
.