Gallai'r bygythiad economaidd o ganlyniad i Covid-19 a Brexit caled ddifetha economi Gogledd Cymru am genhedlaeth - gan ein hatgoffa o ddyddiau tywyll cau'r gweithiau dur phyllau glo.
Mae Dr Edward Jones, o Ysgol Busnes Prifysgol 亚洲色吧, yn rhybuddio y gallai鈥檙 cwymp economaidd barlysu gallu鈥檙 rhanbarth i fownsio鈥檔 么l o鈥檙 dirwasgiad presennol, ond mae hefyd yn coelio y gall gweithwyr ifanc a natur y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol gynnig cyfleoedd arbennig i'r rhanbarth.
Esboniai fod y ffigurau diweithdra diweddaraf yn paentio darlun tywyll, gyda nifer di-waith Cymru yn codi o 3.1% ym mis Mawrth i 4.6%, cynnydd o dros 20,000 o bobl, ond mae'n debygol y bydd yn waeth wrth i gyflogwyr mawr fel Airbus ystyried colli swyddi.
听
Dywedodd Dr Jones: 鈥淢ae Covid-19 wedi cael effaith ddinistriol ar economi gogledd Cymru, a gallai Brexit waethygu鈥檙 problemau hyn, yn enwedig gyda buddugoliaeth etholiad Joe Biden yn debygol o effeithio ar allu Boris Johnson i gyrraedd cytundeb masnach cyflym 芒'r UDA, cynllun sydd hyd yn hyn wedi dibynnu'n fawr ar fympwyon yr Arlywydd Donald Trump.
鈥淏ellach mae tair blaenoriaeth i鈥檙 Llywodraeth. Y flaenoriaeth gyntaf ac amlycaf yw achub bywydau. Yr ail yw amddiffyn yr economi a'r trydydd yw paratoi ar gyfer yr adferiad.
鈥淥nd mae鈥檙 ffigyrau swyddi yn peri pryder, ar y Stryd Fawr ac ym maes gweithgynhyrchu - ni fyddwn yn colli miloedd o swyddi yn sydyn fel y gwnaethom gyda chau Gwaith Dur Shotton a Brymbo ac Ynys M么n Alwminiwm, ond rydym yn clywed yn gyson am swyddi'n cael eu colli p'un ai yn Debenhams, Pizza Express neu Airbus.
鈥淵n ystod yr haf hysbysodd llawer o gwmn茂au鈥檙 Llywodraeth eu bod yn cychwyn y broses ddiswyddo a gallwn ddisgwyl i鈥檙 rhain gael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
鈥淗efyd, mae rhai cwmn茂au Ewropeaidd wedi dechrau ailstrwythuro eu busnes wrth inni agos谩u at Brexit; cael gwared ar y gweithwyr iau gan gadw'r rhai sydd 芒 phrofiad i gadw'r busnes i fynd. Mae hyn yn peri pryder mawr oherwydd gweithwyr ifanc yw dyfodol unrhyw fusnes. 鈥
Ychwanegodd Dr Jones fod Cymru wedi gweld swyddi鈥檔 dechrau cael eu colli hyd yn oed yn ystod cynllun ffyrlo y Canghellor Rishi Sunak, gyda鈥檙 nod o osgoi colli swyddi, a welodd traean o weithlu Cymru yn cael eu talu i aros gartref.
Ym mis Mawrth, cyfradd ddiweithdra Cymru oedd 3.% ond erbyn mis Medi, roedd hyn wedi codi'n sydyn i 4.6% gyda'r DU ar y lefel ers tair blynedd o 4.8%. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn disgwyl i ddiweithdra gyrraedd 7.5% erbyn canol y flwyddyn nesaf.
Mae Dr Jones o'r farn y gallai diweithdra yng Nghymru barhau i gynyddu, yn dilyn tuedd a welwyd yn y DU gyfan, ac y gallai rhai ardaloedd yng Nghymru brofi amodau'r farchnad lafur leol hyd yn oed yn waeth.
鈥淓rbyn canol eleni, roedd diweithdra wedi codi i 3.8% yng Ngogledd Cymru, ond wedi cyrraedd 5.% ar gyfer Ynys M么n a 4.7% yng Nghonwy. Efallai y bydd rhai ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys hyd yn oed Sir y Fflint a Wrecsam gyda鈥檜 swyddi ym maes gweithgynhyrchu uwch yn profi lefelau diweithdra a welwyd ddiwethaf yn gynnar yn y 1990au.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae'r rhain yn dueddiadau pryderus a gallent gael effeithiau niweidiol hir-dymor ar deuluoedd a chymunedau. Yng Nghymru, mae gennym brofiad o'r effaith andwyol y mae diweithdra tymor hir yn ei gael.
鈥淢ewn ardaloedd fel Sir y Fflint a Wrecsam, fe wnaeth cau pyllau glo a gweithiau dur fel Shotton a Brymbo adael pobl yn delio 芒'r clwyfau emosiynol a chorfforol o ddad-ddiwydiannu cyflym yn yr 1980au. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'n hanes.鈥
Yn ei Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd, cydnabu鈥檙 Canghellor fod disgwyl i economi鈥檙 DU grebachu dros 11% eleni, y dirywiad economaidd gwaethaf mewn 300 mlynedd.
Dywedodd Dr Jones: 鈥淧an darodd yr argyfwng coronafirws gyntaf, roedd llawer yn optimistaidd am adfywiad economaidd cyflym yn ail hanner y flwyddyn, adferiad si芒p V, ond mae鈥檙 rhagolygon wedi tywyllu ers hynny, gydag ofnau cynyddol am adferiad araf a phoenus.
鈥淢ae'r hyn a ddechreuodd fel sioc allanol fer a miniog yn troi'n araf i'r math o boen hir a brofwyd ddiwethaf yn ystod argyfwng ariannol 2007.
鈥淵m mis Gorffennaf, cyhoeddodd Airbus ei fod yn bwriadu torri cyfanswm o 15,000 o swyddi yn fyd-eang wrth iddo ddelio ag effeithiau argyfwng coronafirws.
鈥淢ae'r 6,000 o staff sy'n gweithio ar safle gwneuthuriad yr adenydd yng Ngogledd Cymru mewn peryg gyda llawer mwy o bobl yn dibynnu ar y cwmni am waith trwy'r gadwyn gyflenwi.
鈥淎mcangyfrifodd Oxford Economics fod Airbus yn cefnogi 11,700 o swyddi ledled Cymru yn 2015, a byddai colli swyddi yn y gwneuthurwr awyren yn effeithio ar bob un ohonynt.鈥
Dioddefodd cynhyrchu ceir yn y DU ei fis Medi arafaf ers 1995 wrth i'r pandemig barhau. Mae gan Sir y Fflint ffatri Toyota fawr ar ei thiriogaeth tra bod ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port hefyd yn cyflogi staff o ogledd Cymru.
Mae Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron y DU wedi rhybuddio am boen pellach i鈥檙 diwydiant a allai gael effaith andwyol ar gyflogaeth ar draws y gadwyn gyflenwi os na chytunir ar fargen Brexit.
鈥淎c ym mis Rhagfyr clywsom y newyddion drwg fod Debenhams yn debygol o gael ei ddiddymu a鈥檌 chwalu yn y flwyddyn newydd, gan roi 12,000 o swyddi mewn perygl ledled y DU.
鈥淒aeth y newyddion ychydig oriau ar 么l i Arcadia gwympo i ddwylo鈥檙 gweinyddwyr, gan roi mwy na 13,000 o swyddi mewn perygl. Bydd colli'r siopau hyn yn cael effaith ddinistriol ar y Stryd Fawr ledled Cymru gyfan.鈥
Dywedodd Dr Jones: 鈥淢ae鈥檔 debyg nad yw Brexit wedi bod ar frig meddwl unrhyw un yn ystod y pandemig hanesyddol hwn, ond daw cyfnod trosglwyddo Brexit i ben ar Ragfyr 31 a gallai hynny olygu rhagor o newyddion drwg i Gymru.
鈥淩hwng 2007 a 2020, cawsom 鈧4.6 biliwn mewn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd gyda鈥檙 rhan fwyaf o hyn yn cael ei wario yng ngogledd a gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd.
鈥淏eth fydd yn digwydd i economi Cymru os na fydd y cyllid hwn gan yr UE yn cael ei ddisodli? Mae astudiaethau wedi dangos bod cyllid strwythurol wedi llwyddo i leihau diweithdra ac y gallai ei symud achosi i ddiweithdra godi.
鈥淒erbyniodd De Swydd Efrog arian strwythurol hyd at 2006, ond ar 么l iddo gael ei dynnu鈥檔 么l cododd diweithdra a methodd y rhanbarth 芒 chynnal y buddion economaidd a gafwyd.
鈥淢ae hynny'n dweud wrthym fod marchnad lafur Cymru yn debygol o wynebu heriau sylweddol yn y dyfodol agos o ystyried effaith barhaus covid-19 ac os na chawn gronfa amgen i gronfeydd strwythurol yr UE.
鈥淥nd mae cyswllt cryf rhwng perfformiad yr economi a Covid-19. Gyda newyddion cadarnhaol am frechlynnau, y gobaith yw y bydd y sefyllfa bresennol yn dod i ben mewn rhyw ffordd felly mae angen i ni baratoi ar gyfer yr adferiad economaidd.
鈥淢ae hyn yn golygu sicrhau dyfodol cwmn茂au, yn enwedig y busnesau bach a chanolig sy'n cyflogi 62% o weithlu Cymru fel eu bod yn barod i ateb y galw a fydd yn dychwelyd rywbryd.
鈥淢ae'r economi wybodaeth fodern yn dibynnu ar weithlu medrus iawn, ac arbenigol yn aml, felly mae'n bwysig nad yw'r sgiliau hynny'n cael eu colli.
鈥淢ae'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, sectorau sy'n dod i'r amlwg fel argraffu 3D, blockchain, a Deallusrwydd Artiffisial, wedi dwys谩u'r angen hwn am weithlu medrus a gwybodus.
鈥淢ae'r chwyldro yn sylfaenol yn newid ein ffordd o fyw, gweithio, a chysylltu 芒'n gilydd trwy gymylu'r ffiniau rhwng y bydoedd ffisegol, digidol a biolegol, ac mae'n gyrru arloesi technolegol ar draws sawl sector.
鈥淕all y ffyniant yn nhechnoleg y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol helpu i roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus gogledd Cymru.
鈥淢ae gan ogledd Cymru draddodiad hir o weithgynhyrchu, a鈥檌 etifeddiaeth yw bod ganddo adnoddau hanfodol o hyd a gweithlu sydd 芒鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i fachu ar gyfleoedd y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol.
鈥淢ae yna gyfle hefyd i ni ailgynllunio鈥檙 Stryd Fawr, troi siopau gwag i ddarpariaeth ar gyfer cynhyrchwyr a gwerthwyr lleol, i greu busnesau newydd a llefydd i鈥檙 gymuned ymgynnull.鈥