Mae'r achrediad yn cynnwys llwybr traws gyfnod arloesol ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n rhoi profiad o'r cyfnodau Cynradd ac Uwchradd i ddarpar athrawon.Â
Mae cymwysterau athrawon israddedig ac ôl-raddedig CaBan, yn Ysgol Addysg y Brifysgol a gynigir trwy bartneriaeth CaBan ÑÇÖÞÉ«°É, wedi derbyn yr achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg, y corff sy'n gyfrifol am achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru. Mae partneriaid CaBan yn cynnwys rhwydwaith o ysgolion partneriaeth ledled gogledd Cymru, GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Gogledd Cymru) a Sefydliad Ymchwil Addysg a Phlentyndod CIEREI.
Dywedodd Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Athrawon CaBan:
"Mae ein rhaglenni Addysg Athrawon CaBan yn cynnig profiad o ansawdd uchel mewn amrediad eang o amgylcheddau dysgu yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, prif lif ac arbenigol yn ogystal â lleoliadau addysg awyr agored. Mae'r achrediad hwn yn bluen yn ein het ac rydym yn hynod falch ohono.
Mae partneriaid CaBan yn gweithio gyda'i gilydd i addysgu athrawon hynod abl, adfyfyriol ac ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol. Mae'r bartneriaeth arloesol hon eisoes wedi cynllunio a chyflwyno ein rhaglenni ar gyfer y genhedlaeth newydd o athrawon.
Gan siarad ar ran y rhwydwaith o ysgolion o fewn y bartneriaeth, dywedodd Llew Davies, pennaeth Ysgol Cae Top ym Mangor: “Mae'n wych gwybod ein bod yn gallu dibynnu ar gyflenwad o athrawon cymwysedig, gwybodus ac effeithiol i ddilyn gyrfaoedd gwerth chweil yn ein hysgolion yn y dyfodol."Â
Mae hunaniaeth ddiwylliannol Cymru a'i chryfderau cynhenid o ran dwyieithrwydd gweithredol yn elfennau allweddol o'n partneriaeth. Bydd rhaglenni CaBan ÑÇÖÞÉ«°É yn paratoi athrawon i fod yn gwbl abl i gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r ymwybyddiaeth a'r profiad hwn o amgylchedd aml-ieithog hefyd o fudd mawr i fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn addysg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt.Â
Dywedodd Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:
"Hoffem longyfarch CaBan ar gael cymeradwyaeth i bob un o'r rhaglenni. Rydym yn wirioneddol edrych ymlaen at adeiladu ar ein Memorandwm o Ddealltwriaeth a chyfrannu at lwyddiant y rhaglenni sydd wedi cael eu hachredu i'r dyfodol."
Dywedodd yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Addysg:
“Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod wrth galon addysg athrawon cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ers 150 o flynyddoedd. Mae'r llwyddiant diweddar hwn wir yn gadarnhad o ansawdd gwaith tîm addysg athrawon CaBan a'n  rhaglenni. Yn ogystal mae'n cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu gweithlu dwyieithog i weithio gyda phlant ar gyfer ein rhanbarth ac ar gyfer Cymru i'r dyfodol.Â
Cafodd myfyrwyr Addysg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É y cyfle yn ddiweddar (12/11/20) i glywed cyflwyniad gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg a chael y cyfle hefyd i ofyn cwestiynau iddi yn ystod 'ymweliad rhithiol' â'r Brifysgol fel rhan o'i chyfres o ymweliadau â darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon ledled Cymru. Â