Graddedigion 亚洲色吧 yn lansio llwyfan fydd yn newid ein ffordd o ddysgu ieithoedd.
Mae dau o raddedigion Prifysgol 亚洲色吧 wedi creu'r llwyfan dysgu iaith cyntaf sy'n seiliedig ar ddata, gan ddefnyddio grym gwyddor data. 听
Sefydlodd Josef Roberts a Simon Parry-Williams 'Pai Language Learning' yn M-SParc, ar Ynys M么n, yn 2019. Defnyddiodd y graddedigion busnes ddull seiliedig ar ddata o ddysgu iaith.听
Mae'r brifysgol wedi cefnogi Josef a Simon yn eu menter trwy Byddwch Fentrus a chyllid gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae partneriaeth y brifysgol 芒 Santander Universities wedi rhoi cefnogaeth bellach i'r fenter newydd hon trwy ddarparu lle am ddim yn M-SParc a chyllid i'w galluogi i ddatblygu a phrofi eu syniadau busnes.
听
Meddai Josef 鈥淎r 么l ennill yr ysgoloriaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddysgu Mandarin yn Tsieina yn 17 oed, rydw i wedi treulio鈥檙 degawd diwethaf yn dysgu fy hun i siarad ieithoedd eraill. Rwy'n deall fy mod i'n ffodus fy mod yn gallu dysgu ieithoedd eraill yn eithaf hawdd, ac roeddwn eisiau rhoi cyfle i bobl eraill wneud yr un peth. Mae llwyfannau'n tueddu i ddechrau gyda'r geiriau hawsaf, yn hytrach na'r geiriau mwyaf cyffredin, sy'n golygu bod y broses o ddysgu sgwrsio yn yr iaith newydd yn mynd yn un hir. Trwy ddadansoddi casgliad enfawr o ddata testun mewn iaith benodol, gwelsom bod modd rhoi geirfa a gramadeg yn nhrefn amlder, fel y gall pobl ddysgu'r geiriau a'r ramadeg sy'n cael eu defnyddio amlaf, yn gyntaf. Trwy fonitro eich arddull dysgu wrth i chi ddefnyddio'r llwyfan, rydym yn gallu awgrymu'r ffordd orau i chi o ddysgu, gan wneud y broses yn fwy effeithlon.鈥
Mae dull Pai Language Learning tuag at ddysgu yn seiliedig ar wyddor data. Mae'r ddau wedi bod yn gweithio'n galed ar adeiladu'r llwyfan ers mis Ebrill 2020. Er gwaethaf y pandemig coronafeirws, gwnaethant lwyddo i weithio 芒 Griffri Melville, datblygwr o Gymru, i baratoi'r llwyfan, a chaiff ei lansio cyn bo hir.听
Meddai Josef 鈥淎r hyn o bryd rydym yn paratoi at ddechrau ymgyrch gyllido torfol ar Kickstarter er mwyn lansio'r llwyfan ym mis Ebrill, a chreu swyddi technoleg da ar Ynys M么n. Rydym yn falch, fel graddedigion 亚洲色吧, o allu gwneud hyn, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Roeddem yn bendant yn poeni y byddai'r pandemig yn ein rhwystro rhag lansio busnes fel hyn, ond gyda llawer o benderfyniad a llawer o help gan y brifysgol, M-SParc, ac eraill, byddwn yn gallu lansio a chreu swyddi yn fuan."
Meddai Simon 鈥淢ae wir yn teimlo鈥檔 wych adeiladu rhywbeth a fydd yn helpu鈥檙 Gymraeg, ac ieithoedd lleiafrifol eraill, a dod 芒 swyddi technolegol i鈥檙 ardal leol a dangos i鈥檙 byd nad oes rhaid i chi fod yn Silicon Valley i wneud hyn. Mae wedi bod yn llawer o waith dysgu, ond yn werth chweil, ac rydym yn gobeithio bydd y gymuned yn gallu ein cefnogi!鈥澨
Meddai'r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi:听
"Hoffwn longyfarch Pai Language Learning ar y cynnydd maent wedi ei wneud sydd, yn ei dro, yn dyst i dalent entrepreneuraidd ein myfyrwyr a'n graddedigion. Mae'n enghraifft wych o sut gall yr eco-system o gefnogaeth i gwmn茂au newydd rydym yn ei datblygu yn y brifysgol, sy'n cynnwys y Parc Gwyddoniaeth, Santander Universities a Llywodraeth Cymru, helpu cwmn茂au newydd i ddatblygu a ffynnu."
Wrth s么n am y gefnogaeth mae'r cwmni wedi ei chael, meddai Josef: 鈥淕wnaeth astudio am MBA mewn Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wir roi'r sgiliau a'r hyder oedd eu hangen arnaf i sefydlu fy musnes. Cawsom lawer iawn o gefnogaeth gan y brifysgol ac eraill. Heb yr holl gefnogaeth hon, gan y brifysgol ac eraill, ni fyddem ar drothwy creu swyddi newydd yn yr ardal a helpu'r economi leol."
Caiff y llwyfan ei lansio gyda chyrsiau yn Gymraeg, Saesneg, Mandarin a Hindi, ac mae 110 o gyrsiau eraill ar y gweill. Mae Pai Language Learning yn llwyfan dysgu iaith ar sail data sydd yn anelu at newid y diwydiant dysgu iaith ar-lein trwy ddefnyddio gwyddor data. Trwy gyfuno'r dull hwn 芒 grymuso'r dysgwr i reoli ei brofiad dysgu ei hun, a dysgu ei hun i ddysgu iaith, gellir gwella'r broses o ddysgu iaith i'r unigolyn.听
Mae Pai Language Learning yn credu'n gryf mewn cefnogi ieithoedd lleiafrifol, ac mae'n addo y bydd 10% o'r elw a ddaw o'r cyrsiau iaith leiafrifol yn cael ei roi i sefydliadau sy'n eu hyrwyddo. Ewch i ddysgu mwy am y cwmni yn Dyma yw'r ddolen ar gyfer听cefnog'r
听