deilad coffa hardd, islaw Prif Adeilad y Brifysgol, ar Ffordd Deiniol yw Cofeb Arwyr Gogledd Cymru, sef enw swyddogol y Porth Coffa. Mae’n adeilad rhestredig a chyfrifoldeb y Brifysgol yw cynnal a chadw’r porth ar gyfer y dyfodol.
Y tu fewn i’r Porth Coffa, fesul plwyf, nodir enwau 8,500 o unigolion, o bob un o siroedd gogledd Cymru, a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
“Mae gweld yr ystafell a’i phaneli derw lle rhestrir enwau’r gwŷr a fu farw yn brofiad teimladwy dros ben,” meddai Lars Wiegand, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws, Prifysgol ɫ.
“Mae bod yn gyfrifol am yr adeilad hwn yn anrhydedd. Mae’n deyrnged ysblennydd ac emosiynol iddynt.”
“Mae rheoli’r adeilad hwn ac adeiladau rhestredig eraill ar y campws yn rhoi cyfle o bryd i’w gilydd i ni gomisiynu gwaith gan grefftwyr traddodiadol.”
Comisiynwyd y gwaith ar ran y Brifysgol gan gwmni contractio lleol Lewington and Templer, a gwnaed y gwaith gan saer coed o’r enw Dave Smith, sydd â chwmni’n gwneud ffenestri a drysau.
Meddai Andy Templer o gwmni Lewis and Templer:
“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r gwaith o gael y Porth Coffa i edrych yn ysblennydd unwaith eto mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio. Saernïwyd y giatiau derw ar batrwm y rhai gwreiddiol a defnyddiwyd y gwaith haearn gwreiddiol hefyd.”