Gall llanwau mawr fod wedi bod yn ffactor allweddol yn esblygiad pysgod esgyrnog a thertapodau esgyrnog
Mae ymchwil arloesol, a gyhoeddwyd yn Proceedings of the Royal Society A, sy’n edrych ar y llanw yn ystod y cyfnod Silwraidd hwyr a’r cyfnod Defonaidd (420 Ma - 380 Ma), yn awgrymu y gallai llanwau mawr fod wedi bod yn ffactor amgylcheddol allweddol yn esblygiad pysgod esgyrnog a thetrapodau cynnar, sef y fertebratau cyntaf i fyw ar y tir.
Datblygiad manwl yw'r astudiaeth o ddamcaniaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol yn yr un cyfnodolyn (Balbus 2014), a awgrymai fod màs a lleoliad orbital penodol y lleuad yn ddelfrydol ar gyfer creu amrediadau llanw mawr ac arunigo pyllau llanw, ac y byddai hyn, yn ei dro, wedi gallu bod yn ysgogiad biolegol i bysgod, a oedd wedi eu dal yn y pyllau hyn rhwng dau lanw uchel iawn, i ddatblygu aelodau.
Ymchwilwyr o Ysgol gwyddorau Eigion, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Uppsala, (Sweden) yw'r cyntaf i gynhyrchu efelychiadau rhifiadol manwl i weld a ddigwyddodd llanwau mawr yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Dyma'r cyfrifiadau cyntaf erioed i gysylltu hydrodynameg llanw â digwyddiad biolegol esblygiadol.
Cyfrifwyd yr efelychiadau rhifiadol gan ddefnyddio ail-luniadau palaeoddaearyddol o gyfandiroedd y Ddaear mewn model llanw rhifiadol. Mae canlyniadau'r efelychiad yn dangos i amrywiadau llanw o fwy na phedair metr ddigwydd o amgylch ardal a elwir yn floc De Tsieina, sef tarddiad yr amrywiaethau cyntaf o bysgod esgyrnog, a lle daethpwyd o hyd i’r ffosiliau pwysig cynharaf ar gyfer y grŵp hwn.
Mae tystiolaeth ddaearegol hefyd yn awgrymu bod cysylltiad agos rhwng amgylcheddau llanw a'r dosbarth hwn o ffosiliau. Mae'r canlyniadau hyn, y cyntaf o’u bath erioed, yn amlygu’r angen i wneud efelychiadau llanw manylach o'r hen fyd. Yn benodol, mae'r ymchwilwyr o'r farn y gellid defnyddio'r dull a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon gydag amrywiaeth o ail-luniadau palaeoddaearyddol mewn cyfnodau eraill, er mwyn archwilio dylanwad y llanw ar darddiad ac amrywiaeth fertebratau cynnar eraill, a’r gwrthwyneb hefyd o bosibl: tybed beth oedd rôl y llanw o ran achosi digwyddiadau difodiant yn y môr? Ìý
Ìý