Y Brifysgol yn cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr, sef canolfan gwasanaethau Cymraeg arloesol y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn ailstrwythuro’r ysgolion academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol ond mae wedi cadarnhau y bydd Canolfan Bedwyr yn parhau i fod yn elfen bwysig o'r strwythur.Â
Wrth sôn am y pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd yn dilyn cyhoeddi'r newyddion am yr ailstrwythuro, dywedodd yr Athro Andrew Edwards, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor: "Rydym yn hynod ffodus ein bod ni’n gallu manteisio ar yr arbenigedd sydd gennym yng Nghanolfan Bedwyr a thros y blynyddoedd nesaf bydd yr arbenigedd hwnnw’n parhau i'n cynorthwyo i gyflawni nodau strategaeth iaith Gymraeg y Brifysgol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadolygu fel rhan o'n gwaith cynllunio strategol.
"Trwy gyfuno swydd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr â rôl newydd Deon Datblygu'r Gymraeg, rydym yn sicrhau y bydd Canolfan Bedwyr yn rhan greiddiol o weithgareddau addysgu ac ymchwil y Brifysgol ynghyd â’i gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ehangach y tu hwnt i’r Brifysgol."
Ychwanegodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg: "Mae gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil a gwasanaethau sy'n ymwneud â'r Gymraeg, ac mewn ymchwil sy'n ymwneud â'r cyd-destun dwyieithog y mae'r Gymraeg yn bodoli o’i fewn, ac mae Canolfan Bedwyr wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r elfennau hynny.
"Rydym yn ehangu cylch gwaith Canolfan Bedwyr i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i'r Gymraeg ym mhob rhan o’r Brifysgol. Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda Chanolfan Bedwyr yn fy rôl newydd fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg yn y Brifysgol."
Ychwanegodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: "Mae chwarter canrif ers sefydlu Canolfan Bedwyr, a thros y cyfnod hwnnw mae wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a thu hwnt. Wrth i'r Brifysgol fynd ati i adnewyddu ei strategaeth iaith Gymraeg, edrychwn ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r strategaeth honno".