Prifysgol 亚洲色吧 a Choleg Cambria yn cyhoeddi Perthynas Gydweithredol newydd
Heddiw, mae Prifysgol 亚洲色吧 a Choleg Cambria wedi cyhoeddi ymrwymiad newydd i gydweithio'n agosach yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Y Brifysgol yw鈥檙 darparwr Addysg Uwch mwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae mewn sefyllfa unigryw o ran ei gallu mewn ymchwil, arloesi ac addysg, a hyfforddiant ar lefel Addysg Uwch. Mae gan Goleg Cambria hanes llwyddiannus iawn o gyflwyno rhaglenni Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac mae wedi llwyddo鈥檔 arbennig wrth weithio gyda chyflogwyr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae'r ddau sefydliad wedi llofnodi Datganiad o Fwriad ar y Cyd sy'n nodi eu dyhead i gydweithio ar draws y lefelau sgiliau ac i gysylltu'r agenda sgiliau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru 芒'r ymchwil rhagorol a鈥檙 sgiliau lefel uwch y mae'r Brifysgol yn eu darparu ledled Gogledd Cymru. Er y bydd hyd a lled y cydweithredu鈥檔 eang, y bwriad yw targedu'r sectorau hynny y mae pandemig covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt a chanolbwyntio ar yr angen i helpu'r gweithlu i ailsgilio a datblygu sgiliau uwch mewn meysydd blaenoriaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru megis gweithgynhyrchu, peirianneg, peirianneg meddalwedd a chefnogaeth i'r sector niwclear. Mae rhai projectau penodol eisoes yn cael eu datblygu ac mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr a myfyrwyr y rhanbarth i sicrhau addysg a sgiliau ystwyth a pherthnasol ar draws pob lefel ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.
Gan groesawu'r Datganiad o Fwriad ar y Cyd, dywedodd Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: "Rwy'n croesawu cyhoeddi'r datganiad o fwriad ar y cyd gan Goleg Cambria a Phrifysgol 亚洲色吧 ac yn cefnogi'r gwaith partneriaethol y maent hwy ac eraill yng Ngogledd Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau a busnesau yn y rhanbarth."
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a鈥檙 Gogledd: "Mae'r cydweithredu rhwng Prifysgol 亚洲色吧 a Choleg Cambria yn newyddion da i Ogledd Cymru yn y cyfnod heriol hwn. Rwy'n croesawu'r cynllun i ganolbwyntio ar y sectorau hynny y mae'r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt, er mwyn cynorthwyo gweithwyr a chyflogwyr."
Meddai鈥檙 Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol 亚洲色吧: 鈥漅wy'n falch iawn o'r newid sylweddol hwn yn y cydweithio 芒 Choleg Cambria i gefnogi adferiad 么l-Covid yn y rhanbarth. Wrth ymrwymo i'r datganiad o Fwriad ar y cyd, mae'r Brifysgol yn ailddatgan ei hymrwymiad i ddarparu ar draws Gogledd Cymru gyfan, gan adeiladu llwybrau rhwng y sector addysg bellach a鈥檙 sector addysg uwch a chefnogi gweithwyr a chyflogwyr wrth iddynt wynebu amgylchedd economaidd newydd ac anodd.鈥
Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: "Rydym yn falch iawn o ddechrau'r bartneriaeth newydd gyffrous hon gyda Phrifysgol 亚洲色吧 a fydd heb os yn cefnogi ein cymunedau lleol a'n cyflogwyr i ddod o hyd i atebion i'r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Bydd cydweithio 芒鈥檔 gilydd yn gyfle unigryw i ddatblygu projectau ar draws y lefelau sgiliau ac yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl yn y rhanbarth am fisoedd a blynyddoedd lawer i ddod."