Cynllun newydd i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn ariannu 75% o bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth. Cysylltwch â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É heddiw i gael gwybod mwy am sut y gall fod o fantais i chi.
) yn rhan greiddiol o'r ddarpariaeth ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru i fusnesau, a nod y fenter hon yw gwneud projectau KTP yn fwy hygyrch a chost-effeithiol i fusnesau bach a chanolig ac annog mwy o fusnesau i fanteisio ar y rhaglen.
Yn y sefyllfa economaidd anodd sydd ohoni, mae wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau projectau KTP sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac yn cael eu cymeradwyo i gymryd rhan yn y rhaglen KTP. Disgwylir i fusnesau bach a chanolig fel arfer gyfrannu 33% o gyfanswm costau'r project, ond bellach dim ond 25% y bydd disgwyl i fusnesau cymwys yng Nghymru ei gyfrannu.
Mae projectau KTP yn helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd, eu cynhyrchiant a'u perfformiad trwy wneud gwell defnydd o wybodaeth, technoleg a sgiliau trwy ddatblygu partneriaeth â phrifysgol, coleg neu ganolfan catapwlt. Mae partneriaethau ar y cyd yn datblygu'r cynnig i roi sylw i angen busnes penodol a rhaid iddynt gyflwyno eu cynnig i'w asesu rhwng 1 Medi 2020 a hanner dydd, ddydd Mercher 3 Chwefror 2021. Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn fydd yn gymwys i gael y cyllid hwn.
Gall y bartneriaeth amrywio yn ei hyd o flwyddyn i dair blynedd yn unol ag anghenion y busnes. Mae croeso i fusnesau o bob sector wneud cais.
Ceir rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y fenter hon
Dim ond prifysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau ymchwil neu ganolfannau catapwlt yn y DU all gyflwyno projectau. Rhaid i'r swydd a grëwyd gan yr arian gael ei lleoli yng Nghymru i fod yn gymwys am y cyllid hwn.
Mae gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É brofiad cadarn o ddarparu cefnogaeth busnes o ansawdd da sydd wedi ennill gwobrau trwy brojectau KTP, sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli arloesi, gwella perfformiad a hyrwyddo cynaliadwyedd.Â
I ddysgu mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Rheolwr KTP Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Tudur Williams t.t.williams@bangor.ac.uk.