Pobl ifanc o Lanelli'n cael eu canmol yn fawr am achub dyn o'r m么r
Datganiad allanol gan Heddlu Dyfed-Powys Police
Mae鈥檙 HEDDLU wedi canmol dewrder rhyfeddol myfyriwr o Lanelli a rhuthrodd i'r m么r i achub dyn.
Cyfarfu Uwcharolygydd heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles, 芒'r ffrindiau Tom Williams, Ciaran Phillips a Morgan Discombe-Hughes i ddiolch iddynt am weithredu wedi i ddyn fynd i drafferthion ar lan y d诺r.
Roedd y cyfeillion pedair ar bymtheg oed yn mwynhau noson ar draeth Llanelli pan sylwon nhw ar ddyn yn cerdded ar hyd y creigiau mewn man anghysbell.
Pan syrthiodd y dyn, gan daro ei ben, rhuthrodd Tom draw i鈥檞 helpu 鈥 gan ei dynnu allan o'r m么r tra鈥檙 oedd ei ffrindiau'n galw am help.
Dywedodd y myfyriwr Bioleg M么r ac Eigioneg ym Mhrifysgol 亚洲色吧: "Roedden ni jest yn eistedd ar y traeth pan welson ni'r dyn 鈥榤a鈥檔 cerdded dros y creigiau. Roedden ni鈥檔 meddwl ei fod yn lle rhyfedd i fod yn cerdded, yna鈥檔 sydyn fe syrthiodd.
"Rhedais i draw i weld a oedd e'n iawn, ac roedd e'n anymwybodol gyda'i ben yn y d诺r. Llwyddais i'w godi allan a'i droi ar ei gefn er mwyn i mi allu gwneud yn si诺r nad oedd yn gwaedu."
Er gwaethaf help Tom, a pherygl y llanw鈥檔 codi, o fewn munudau roedd y dyn wedi mynd yn 么l i'r d诺r. Gan aros yn ddigyffro, dechreuodd Tom siarad ag ef mewn ymgais i'w ddenu i ddiogelwch, tra'r oedd ei ffrindiau鈥檔 galw 999 am gymorth.
"Llwyddais i'w gael i ddod allan o'r d诺r," meddai Tom, o Felinfoel. "Daeth ac eistedd wrth fy ymyl, ac roeddwn yn siarad ag ef am bethau arferol 鈥 unrhyw beth oedd yn dod i'n meddwl i. Dydw i ddim yn si诺r beth oeddwn i'n ei feddwl, ond roeddwn i'n gwybod bod angen i mi wneud rhywbeth.
"Roedd yn eithaf gwyllt i ddechrau, ac roedd yn amlwg ei fod dan straen, ond wedyn newidiodd ei feddylfryd yn gyfan gwbl. Roedd fel petai wedi newid yn llwyr 鈥 edrychodd allan i鈥檙 m么r gan ddweud pa mor braf oedd yr olygfa. Dyna pryd roeddwn i'n gwybod ei fod yn iawn."
Cafodd Heddlu Dyfed Powys, gwasanaeth ambiwlans Cymru, gwylwyr y Glannau a'r RNLI eu hanfon i'r fan, lle roedd torf enfawr wedi ymgasglu i wylio.
Ar 么l cyrraedd, helpodd yr heddlu a pherson茅l gwylwyr y Glannau i gael y dyn dros 20 troedfedd o dir creigiog yn 么l i lwybr yr arfordir.
"Fe es i gyflwr o sioc yn syth wedyn,鈥 meddai Tom. "Rwy'n credu bod yr adrenalin wedi mynd, ac roeddwn i ar bigau drain am ddiwrnod neu ddau ar 么l hynny. Roeddwn i'n cynhyrfu dim ond yn meddwl am y peth.
"Rwy'n iawn gyda'r hyn a ddigwyddodd erbyn hyn. Rwy'n gwybod fy mod wedi gwneud y peth iawn, ac yn meddwl pa mor lwcus oedd hi ein bod ni yno a鈥檔 bod wedi鈥檌 weld yn disgyn."
Cyfarfu Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Sir G芒r, Ifan Charles, 芒 Tom a'i ffrindiau ar 么l y digwyddiad i'w canmol am eu gweithredoedd.
Meddai: "Does dim amheuaeth bod y gr诺p hwn o ffrindiau wedi achub bywyd dyn, a hoffwn ddiolch o galon iddyn nhw am eu cymorth y noson honno.
"Mae dewrder Tom yn rhedeg i helpu heb feddwl dwywaith, a galwad cyflym Ciaran a Morgan i'r gwasanaethau brys, yn haeddu'r ganmoliaeth fwyaf.
"鈥橠oes bosibl ei fod wedi bod yn beth hawdd i'w wneud, ond dylai'r tri fod yn hynod falch o'u gweithredoedd anhunanol."