Cyfri’r Cewri
Mae’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn adnabyddus am ei waith diweddar i boblogeiddio mathemateg ac mae ganddo lyfr newydd ar fin ei gyhoeddi.
Mae (Caerdydd, 2020) yn cyflwyno bywyd a gwaith dwsin o fathemategwyr blaenllaw, rhai ohonynt a aned yng Nghymru, ac eraill a gyflawnodd eu gwaith yng Nghymru. Prif neges y llyfr yw bod mathemateg yn rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.
Mae’r gyfrol newydd yn adeiladu ar waith Llewelyn Gwyn Chambers, cyn Ddarllenydd mewn mathemateg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn ei lyfr arloesol Mathemategwyr Cymru (Caerdydd, 1994) lle manylodd ar hanes 70 a mwy o fathemategwyr Cymru.
Roedd yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn ddarlithydd mewn mathemateg yn y Coleg Normal ac yn Brifathro’r Coleg Normal (1994-96). Bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Ysgol Addysg y Brifysgol.
O ddiddordeb arbennig i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, testun un o benodau Cyfri’n Cewri yw George Hartley Bryan (1864-1928), Pennaeth Adran Mathemateg ÑÇÖÞÉ«°É dros y cyfnod 1896-1925. Roedd Bryan yn athrylith yn ei faes ac yn awdur Stability in Aviation yn 1911, llyfr a osododd sail technoleg hedfan ac a arweiniodd at ddyfarnu iddo fedal aur y Royal Aeronautical Society ac anrhydeddau eraill. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad ecsentrig Bryan yn gymeradwy i awdurdodau’r coleg ar y pryd. O ganlyniad ni chafodd ei waith y clod dyladwy, fel y dangosodd yr Athro Jim Boyd wrth draddodi Darlith Gyhoeddus Ballard Mathews yn y coleg yn 2011 dan y teitl ‘Prophet without Honour’.
Roedd Dr Thomas Richards (Doc Tom), Llyfrgellydd y Brifysgol yn ddiweddarach, yn fyfyriwr yn nosbarth Bryan ac yn dyst i’w ymddygiad. Darlledodd Richards sgwrs radio yn 1953, dan y teitl Doctor Bryan, sy’n cynnwys ei sylwadau am y darlithydd. Mae’r bennod am Bryan yn Cyfri’n Cewri yn dyfynnu o sgript y rhaglen nad yw wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd lawer ac yn cymharu ffawd Bryan gydag enwogrwydd Syr John Morris-Jones, cyfoeswr iddo ym Mangor.
Yn 2010 dyfarnwyd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Athro Gareth Roberts am ei waith mewn mathemateg. Mae’n Gymrawd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.