Sut gall Awdurdodau Lleol annog dinasyddion i gymryd rhan mewn trawsnewid ynni
Mae pecyn newydd yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd i ddinasyddion Ewrop fod yn gyd-gynllunwyr ac arweinwyr ar brojectau cynhyrchu ynni, trafnidiaeth a datblygiadau cymdeithasol sy鈥檔 adnewyddadwy a chynaliadwy, yn hytrach na bod dan orfodaeth i dderbyn projectau o'r fath.
Mae'r wyth ddeddf sy'n rhan o鈥檙 pecyn yn cryfhau hawliau dinasyddion i gynhyrchu, gwerthu, storio a defnyddio ynni adnewyddadwy yn ddidrafferth, gyda chefnogaeth a heb wahaniaethu.聽Eglura Dr Sioned Haf, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧, y gallai鈥檙 鈥渄atblygiad hwn fod yn ddechrau ar lwyfan mwy cefnogol i fentrau ynni dan arweiniad dinasyddion ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd.
Gallai chwarae rhan yn annog mwy o ddinasyddion i gymryd rhan fel rhanddeiliaid wrth ymateb i鈥檙 heriau ynni presennol.鈥滿ae papur polisi newydd a gyd-ysgrifennwyd gan Dr Sioned Haf, sy鈥檔 Gymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, wedi cyfrannu at ddatblygiad y pecyn hwn, trwy ganolbwyntio ar r么l Awdurdodau Lleol yn sicrhau mwy o gyfleoedd a dulliau cydweithredol o ganiat谩u i鈥檞 dinasyddion gymryd rhan fwy gweithredol yn cyd-gynllunio mesurau i drawsnewid ynni.
Mae鈥檙 argymhellion yn cynnwys yr angen i fabwysiadu prosesau mwy agored a chynhwysol, democratiaeth ymgynghorol (sydd yn cymell ymroddiad cyhoeddus i gyd-arwain datblygiadau, cydweithio鈥檔 greadigol a phontio materion cysylltiedig megis lles, iechyd, econom茂au lleol a materion cymdeithasol 芒 thrawsnewid ynni.
Ychwanegodd Dr Haf,聽鈥淗yd yn hyn, mae datblygiadau polisi ym maes trawsnewid ynni wedi tueddu i gymryd yn ganiataol mai atebion technolegol fydd y prif sbardun dros newid. Mae llawer llai o sylw wedi cael ei roi i鈥檙 elfen gymdeithasol trawsnewid ynni. Ni fydd datblygu a gweithredu polisi o鈥檙 brig i鈥檙 gwaelod, wedi ei arwain gan dystiolaeth dechnolegol yn unig, yn cymell dinasyddion i gyfrannu at y trawsnewidiad hwn.
O ran y sefyllfa gyfoes, aeth ymlaen i ddweud: 鈥淵n ystod y cyfnod hwn, pan fo gwledydd ar draws Ewrop a thu hwnt yn dioddef effaith y firws covid-19, mae鈥檔 nodedig fod cymaint o ddinasyddion wedi dangos eu gallu, gwytnwch a pharodrwydd i gydweithio i ofalu am eu cymunedau. Maent hefyd wedi profi鈥檔 hynod o arloesol yn canfod ffyrdd o ddarparu gwasanaethau sydd yn cryfhau a chefnogi eu cymunedau mewn ffyrdd sy鈥檔 ymateb i anghenion penodol lleol.
Os yw鈥檙 argyfwng presennol wedi dangos unrhyw beth i ni, mae wedi profi gallu dinasyddion, ynghyd a rhai cyrff llywodraethol, i gydweithio mewn cyfnod o argyfwng.聽
Mae hon yn wers a ellir ei chymhwyso wrth ymateb i鈥檙 argyfwng hinsawdd. Dylai Awdurdodau Lleol wneud y gorau o鈥檙 gallu anhygoel yma sy鈥檔 bodoli yn eu cymunedau, a chefnogi dinasyddion i gymryd rhan yn canfod atebion lleol i鈥檙 argyfwng hinsawdd trwy gyd-gynllunio i聽drawsnewid ynni.鈥
Cafodd yr adroddiad ei lunio fel rhan o secondiad Energy- PIECES, a鈥檌 ddatblygu gan y Global Sustainability Institute ym Mhrifysgol Anglia Ruskin, Caergrawnt trwy gefnogaeth 鈥 Cymdeithas Ewropeaidd o Awdurdodau Lleol i drawsnewid ynni. Mae鈥檙 papur llawn, sydd yn cynnwys yr argymhellion polisi, i鈥檞 weld .